Skip to main content

Wales v France travel advice

09 Maw 2022

Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau’n ofalus a disgwylir i’r rhwydwaith o amgylch Caerdydd fod yn brysur iawn ddydd Gwener yma (11 Mawrth).

Bydd Cymru’n chwarae yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm Principality nos Wener (8pm) ac mae’r gic gyntaf gyda’r nos yn golygu mai nifer cyfyngedig o wasanaethau rheilffordd sydd ar gael gan Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr eraill ar ôl y gêm.

Hefyd, mae cyngerdd James Arthur yn cael ei gynnal yn Arena Motorpoint Caerdydd nos Wener hefyd ac mae pob tocyn wedi’i gwerthu.  Bydd hyn yn debygol o gynyddu’r galw am wasanaethau ar ôl 10pm.

Atgoffir teithwyr hefyd mai dim ond gadael yn unig fydd modd i chi ei wneud o 9pm ymlaen o Orsaf Heol y Frenhines oherwydd y rygbi, oni bai bod gan gwsmeriaid ofynion hygyrch neu eu bod yn teithio i Fae Caerdydd.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Gan fod Caerdydd eisoes wedi cynnal nifer sylweddol o gemau Chwe Gwlad ar nos Wener ers iddyn nhw ddechrau yn 2009, mae gennym ni gynlluniau cadarn ar waith cyn y gêm yr wythnos hon.

“Ond mae’r gêm nos Wener yn her sylweddol i’r rhwydwaith rheilffyrdd o amgylch Caerdydd, gyda degau o filoedd o bobl eisiau teithio yn ystod cyfnod llai o amser ar ôl y gêm.

“Mae gennym ni fwy o gapasiti na’r gêm nos Wener ddiwethaf a gynhaliwyd nôl yn 2016 ond, gan ei bod yn gorffen yn hwyr, dim ond tua hanner capasiti brynhawn Sadwrn.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda Great Western Railways (GWR), Network Rail a Heddlu Trafnidiaeth Prydain i sicrhau y gallwn rhoi pobl ar ben eu tait.  Ond, mae’n hanfodol bod pawb yn cynllunio eu teithiau’n ofalus ac yn gwirio’r wybodaeth deithio ddiweddaraf ar wefan TrC, yr ap neu gyfryngau cymdeithasol.”

Bydd GWR unwaith eto yn defnyddio eu trenau Electrostar holl-drydan i ddarparu mwy o le i deithwyr ychwanegol ar brif reilffordd De Cymru rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweithrediadau GWR: “Rydym yn falch o weithredu ein trenau trydan Dosbarth 387 mwy cynaliadwy eto ar gyfer y digwyddiadau hyn.  Buont yn effeithiol iawn yn symud cwsmeriaid o Gaerdydd i Gasnewydd, gan helpu i greu mwy o le ar wasanaethau Llundain a Bryste.

“Fe fyddwn ni’n eu defnyddio nhw mewn ffordd debyg nos Wener, ond mae Caerdydd Canolog yn mynd i fod yn arbennig o brysur ar ôl y gêm a bydd angen i gwsmeriaid giwio i fynd ar drenau’n ddiogel.”

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain i atgoffa cwsmeriaid fod yn rhaid iddynt wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru o hyd, oni bai eu bod wedi’u heithrio.

Dylid nodi hefyd y gall unrhyw un yr ystyrir eu bod yn rhy feddw i deithio gael ei rwystro rhag teithio neu y gellir gofyn iddo adael y gwasanaeth.

Dywedodd Arolygydd BTP Richard Powell: “Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid trwy gydol twrnamaint y Chwe Gwlad i helpu’r miloedd sy’n defnyddio’r rheilffordd i deithio yn ôl ac ymlaen i’r digwyddiadau hyn yn ddiogel.

“Rydym yn gweld sut y gall alcohol effeithio ar grebwyll ac yn aml mae pobl yn cymryd mwy o risgiau - rydym yn annog teithwyr i gymryd gofal arbennig o'u hunain ac eraill ac i sicrhau eu bod yn teithio’n ddiogel.

“Yn ogystal â bod â swyddogion ychwanegol wrth law ledled y rhwydwaith, rydyn ni am atgoffa teithwyr o’n gwasanaeth testun cyfrinachol.  Arbedwch y rhif ‘61016’ yn eich ffôn rhag ofn y byddwch byth angen ein cymorth ar y rheilffordd neu i riportio unrhyw weithgaredd amheus.”

Nid oes gan Network Rail unrhyw waith peirianneg wedi’i drefnu ar gyfer Caerdydd na'r ardaloedd cyfagos ddydd Gwener hwn.  Mae gwaith atgyweirio traciau yn parhau rhwng yr Amwythig a'r Drenewydd yn y Canolbarth, yn dilyn llifogydd helaeth a achoswyd gan Storm Eunice.

Nodiadau i olygyddion


Cau Ffordd

Bydd Heol Penarth y tu ôl i Orsaf Caerdydd Canolog o’r arosfannau bysiau/pencadlys Nwy Prydain a'r drofa i Heol Eglwys Fair ar gau i’r ddau gyfeiriad am resymau iechyd a diogelwch rhwng 20.45 a 23.00 ar ddiwrnod y digwyddiad.  Mae’n werth nodi, os bydd yn ddiogel, gellir agor y ffordd naill ai cyn neu ar ôl yr amserlen hon – Cyngor Caerdydd yn unig fydd yn gwneud y penderfyniad hwn.

Mae’r holl fanylion teithio ar gyfer y digwyddiad i’w gweld ar dudalen Gwaith Ffyrdd a Chau Ffyrdd Cyngor Caerdydd (caerdydd.gov.uk).

Bydd cau y ffyrdd ond yn caniatáu mynediad i'r maes parcio trwy Heol Penarth ar gyfer parcio hygyrch, bysiau cyfnewid, cerbydau brys, criwiau trên a chontractwyr perthnasol.

Maes parcio

Bydd y maes parcio ar gau'r diwrnod cyn y digwyddiad ac ar y diwrnod ei hun er mwyn lleihau symudiadau cerbydau a darparu lle mwy diogel i deithwyr sy’n ciwio.

Bydd y maes parcio cefn ar gau rhwng 06:00 ddydd Iau 10fed o Fawrth, ac eithrio mynediad i'r cilfachau 20 munud a pharcio hygyrch.  Bydd y cilfachau parcio 20 munud yn dod i ben am 17:00 ar ddiwrnod y digwyddiad.  Bydd y maes parcio yn cael ei ailagor yn llawn i'r cyhoedd am 04:00 ddydd Sadwrn 12fed o Fawrth.

Unwaith eto, bydd cau'r ffordd ond yn caniatáu mynediad i'r maes parcio drwy Heol Penarth ar gyfer parcio i'r anabl, bysiau newydd, cerbydau brys, criwiau trên a chontractwyr perthnasol.

Tacsis

Ar ddiwrnod y digwyddiad, bydd tacsis yn gallu defnyddio’r safle tacsis o flaen yr orsaf tan 15:00, fodd bynnag ni chaniateir iddynt ddefnyddio cefn yr orsaf a’r maes parcio, ac ni ddylent effeithio ar y fynedfa i'r maes parcio, yr allanfa a chau'r ffordd ar gyfer y digwyddiad.

Dim ond tacsis ar gyfer criwiau trên fydd â mynediad i'r maes parcio yng nghefn yr orsaf.