29 Meh 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa teithwyr ei bod hi'n bwysig gwirio am yr wybodaeth deithio ddiweddaraf yn sgil gweithredu diwydiannol a gynhelir ddechrau fis Gorffennaf.
Mae ASLEF wedi cyhoeddi y bydd ei aelodau mewn 16 o gwmnïau gweithredu trenau (TOC) - gan gynnwys Avanti, CrossCountry, Great Western Railway a West Midlands Trains, sydd i gyd yn rhedeg gwasanaethau yng Nghymru/y tu allan i Gymru – yn gweithio unrhyw oramser o ddydd Llun 3 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf yn gynhwysol.
Dyw TrC ddim yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol ond mae rhai o'i wasanaethau'n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i'r amserlen a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.
Dydd Llun 3 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf yn gynhwysol
O ganlyniad i'r gwaharddiad goramser ymhlith aelodau ASLEF mewn 16 o gwmnïau gweithredu trenau, gall amserlenni y gweithredwyr hynny fod yn destun newidiadau ymlaen llaw neu ar fyr rybudd.
Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg yn ôl yr amserlen, ond gall gwasanaethau fod yn brysurach nag arfer oherwydd y camau diwydiannol sy'n cael eu cymryd gan y gweithredwyr, yn enwedig ar y llwybrau isod:
- Caerfyrddin - Abertawe - Pen-y-bont ar Ogwr - Canol Caerdydd - Casnewydd - Cyffordd Twnnel Hafren
- Caerloyw - Cheltenham
- Gogledd Cymru - Caer - Crewe - Manceinion
- Amwythig - Birmingham International
I gael yr wybodaeth deithio ddiweddaraf, ewch i Journey Check, gwefan Trafnidiaeth Cymru, neu ap TrC sydd wedi ennill gwobrau.