Skip to main content

Passengers advised to plan ahead as essential improvements planned for the Heart of Wales line to boost reliability

23 Medi 2026

Bydd y rheilffordd rhwng Llandrindod a Craven Arms ar gau am bum niwrnod o Ddydd Llun 28 Medi tra bod Network Rail yn cynnal rhaglen o waith hanfodol ar y llinell.

Bydd y gwaith peirianneg hanfodol sy'n cael ei gynnal rhwng 07:00 Dydd Llun 28 Medi a 19:00 Dydd Gwener 2 Hydref yn gymorth i gynnal diogelwch a dibynadwyedd gwasanaethau ac yn cefnogi dyfodol hirdymor Lein Calon Cymru.

Bydd timau'n gweithio mewn sawl lleoliad ar hyd y llinell; gan gynnwys rhwng Bucknell, Cnwclas, Llangynllo, Pen-y-bont a Llandrindod.

Yn ystod y gwaith, bydd peirianwyr yn:

  • amnewid pren trac rhwng Bucknell a Llangynllo
  • adnewyddu prennau a slipanau rheilffordd rhwng cyffordd Craven Arms a Llandrindod
  • cynnal gwaith arolygu yn Nhwnnel Pen-y-bont er mwyn cefnogi cynllunio gwaith yn y dyfodol
  • archwilio Twnnel Llangynllo a gwneud gwaith atgyweirio a llystyfiant.

Bydd y gwaith hefyd yn gofyn am gau ffyrdd dros nos ar sawl croesfan reilffordd:

  • Croesfan reilffordd Brynmarlais, rhwng Llandybie a Bonllwyn: 10.05yp Dydd Llun 28 Medi i 5.30yb Dydd Mawrth 29 Medi.
  • Croesfan reilffordd Llandadog: 9.45yh Dydd Mawrth 29 Medi i 5.30yb Ddydd Mercher 30 Medi.
  • Croesfan reilffordd Llandybie 10.05yh Dydd Mercher 30 Medi i 5.30yb Ddydd Iau 1 Hydref.
  • Croesfan reilffordd Tir-y-dail, Rhydaman: 10.05yh Dydd Iau 1 Hydref i 5.30yb Ddydd Gwener 2 Hydref.

Gwiriwch cyn teithio

Anogir teithwyr i wirio cyn iddynt deithio, gan y bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithredu gwasanaeth bws yn lle trên rhwng yr Amwythig a Llandrindod drwy gydol y cyfnod cau. Bydd gwasanaethau rheilffyrdd yn parhau rhwng Abertawe a Llandrindod. Bydd nifer fach o wasanaethau'r Amwythig i Crewe hefyd yn cael eu heffeithio, gyda gwasanaeth bws yn lle trên o Amwythig i Crewe rhwng 23:40 a 05:30 bob nos.

Bydd TrC yn darparu cyfuniad o wasanaethau bysiau cyflym a bysiau mini. Bydd gwasanaethau cyflym dim ond yn galw yn Amwythig, Craven Arms, Trefyclo a Llandrindod, tra bydd bysiau bach yn galw ym mhob gorsaf ar hyd y llwybr.

O Ddydd Llun 28 Medi i Ddydd Iau 1 Hydref, bydd pump yn gadael bob dydd o'r Amwythig a chwech o Landrindod, gyda gwasanaeth tua bob tair awr.

Ar Ddydd Gwener 2 Hydref, bydd pedwar ymadawiad o'r Amwythig a phump o Landrindod, tua bob tair awr. Disgwylir i wasanaethau rheilffyrdd ailddechrau ar ôl 19:00 Ddydd Gwener 2 Hydref, gyda bysiau wrth gefn yn parhau i fod ar gael i gefnogi cwsmeriaid pe bai angen.

Gall amseroedd teithio fod yn hirach nag arfer, felly anogir cwsmeriaid i ganiatáu amser ychwanegol a chynllunio ymlaen llaw.

Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am deithio ar www.trc.cymru