24 Hyd 2019
Cynghorir cwsmeriaid rheilffyrdd ledled Cymru a'r Gororau i wirio cyn iddynt deithio ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn (25 a 26 Hydref) ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd tywydd melyn.
Oherwydd y rhagolygon o law trwm a bygythiad llifogydd, bydd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn darparu staff ychwanegol a bysiau wrth gefn mewn lleoliadau allweddol ar draws y rhwydwaith.
Bydd cyfyngiadau cyflymder dros dro hefyd yn cael eu cyflwyno ar rai llwybrau sef:
- Dinas Rhondda (Dyffryn Treherbert) 20mya - eisoes ar waith
- Twnnel Pen-y-bont (Calon Cymru) 20mya o 19:00 dydd Gwener 25 Hydref
- Maes y Wern (Calon Cymru) 20mya o 19:00 dydd Iau 24 Hydref
Ar gyfer Blackbridge ym Machynlleth, lle bu eisoes llifogydd y mis hwn, bydd y rheilffordd yn cael ei harchwilio bob tair awr unwaith y bydd rhybudd llifogydd yn weithredol.
Cynghorir felly i gwsmeriaid wirio’u taith cyn teithio ar nationalrail.co.uk neu travelcheck.com/tfwrail/
Dylai cwsmeriaid hefyd gymryd gofal ychwanegol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i orsafoedd a chaniatáu amser ychwanegol ’'w hunain lle bo hynny'n bosib.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth i Gymru a Network Rail: “Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, a gyda thywydd garw yn ddisgwyliedig yfory ac i mewn i’r penwythnos, mae’n bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio cyn iddynt deithio.
“Gall law trwm a llifogydd achosi aflonyddwch i’n gwasanaethau ac er mwyn cadw’n pobl a’n cwsmeriaid yn ddiogel, efallai y bydd angen i ni wneud newidiadau munud olaf i rai gwasanaethau.
“Byddwn yn monitro’r tywydd yn agos ac yn sicrhau bod timau ychwanegol wrth law i leihau unrhyw amhariadau, gan gynnwys bysiau wrth gefn mewn lleoliadau allweddol. Hoffem ddiolch i gwsmeriaid ymlaen llaw am eu dealltwriaeth.”