07 Mai 2025
Rydym yn cynnig tocynnau trên am ddim i staff milwrol cyfredol, yn ogystal â chyn-filwyr, er mwyn nodi Diwrnod VE yfory.
Gall unigolion sy’n dymuno mynychu unrhyw ddigwyddiad a drefnwyd ar draws ein rhwydwaith Cymru a’r Gororau deithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru yn rhad ac am ddim ar 8 Mai.
Mae’n bosib i staff milwrol cyfredol wisgo eu hiwnifform neu ddod â cherdyn adnabod milwrol er mwyn gallu teithio am ddim.
Mae gan gyn-filwyr yr hawl at hyn hefyd drwy ddangos medal neu gerdyn adnabod.
Mae hi’n 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop a chaiff gwasanaethau a digwyddiadau eu cynnal ledled Prydain er mwyn nodi’r aberthau a wnaethpwyd gan gymaint.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Mae mor bwysig ein bod yn dod â phobl ynghyd i nodi carreg milltir hanesyddol o’r fath. Mae ein Lluoedd Arfog wedi rhoi cymaint i’n gwlad ac yn parhau i wneud hynny, a dyma ein ffordd o ddweud diolch.”
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr TrC sydd â chyfrifoldeb dros gyn-filwyr:
“Rydyn ni’n deall pwysigrwydd gallu mynychu digwyddiadau i nodi Diwrnod VE. Roedden ni eisiau gwneud y peth iawn felly, sef rhoi’r cyfle i unrhyw aelodau cyfredol neu gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog deithio i ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim.
“Mae’r ewyllys bach hwn yn ffordd o ddiolch i’r rheini sydd wedi, ac sy’n parhau i, wasanaethau yn ein lluoedd arfog.”
“Mae sawl cydweithiwr yn TrC wedi gwasanaethu yn gynharach yn eu gyrfaoedd ac rydyn ni’n falch o’u cefnogi ac anrhydeddu’r rheini a wnaeth rhoi cymaint er lles rhyddid.”
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ar draws y DU, ewch i: Activities and events – VE Day and VJ Day 80