29 Ebr 2025
Cynhaliwyd dathliad arbennig ym Mhlas Pentwyn, Coed-poeth, yn ddiweddar wrth i’r trigolion ddod at ei gilydd i anrhydeddu diwydiant rheilffyrdd y Mwynglawdd.
Rheilffyrdd mwyngloddfeydd y Mwynglawdd oedd enaid yr ardal yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, a chynhaliwyd digwyddiad arbennig i gofio amdanynt wrth lansio Cledrau’r Cof, llyfryn deniadol iawn o atgofion, hanes a mynegiant creadigol.
Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â Phartneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig, Grŵp Coffee Companions y Mwynglawdd ac Asiant Cymunedol y Mwynglawdd. Roedd y digwyddiad yn benllanw wythnosau o weithdai a gynhaliwyd ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd, pan ddaeth aelodau o’r gymuned ynghyd i rannu straeon, ysgrifennu barddoniaeth a chreu gwaith celf sydd bellach wedi’u rhoi ar gof a chadw yn llyfryn Cledrau’r Cof.
Fel rhan o ddathliadau cenedlaethol Railway 200, sy’n nodi 200 mlynedd o reilffyrdd modern, roedd y digwyddiad yn gyfle hefyd i dalu teyrnged i effaith barhaus y diwydiant rheilffyrdd ar gymunedau, gyrfaoedd a chysylltiadau.
Roedd cyfle i ymwelwyr fwynhau arddangosfa o waith creadigol a hanesyddol, gan gynnwys cerddi, ffotograffiaeth, arteffactau a map trawiadol graddfa-fawr o Waith Calch y Mwynglawdd. Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad oedd y casgliad gwych o drenau a lorïau model sy’n eiddo i un o’r trigolion lleol, Brian, a gariodd y llwyth olaf o ddeunyddiau o Chwarel y Mwynglawdd cyn iddo gau yn 1994.
Dywedodd Brian: “Roeddwn yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y digwyddiad. Roedd yn anrhydedd mawr cael dangos fy modelau o’r trenau a’r lorïau sy’n cynrychioli rhan fawr o hanes y Mwynglawdd. Fe wnaeth y chwarel a’r rheilffordd roi bywoliaeth dda i mi, a llawer o bobl eraill, am bron i 37 o flynyddoedd. Rwy’n falch fy mod wedi cymryd rhan a chael cyfle i weld rhan o’n bywyd gwaith yn cael ei chydnabod a’i chofio.”
Ymhlith modelau Brian roedd replica o’r lori Leyland y gwnaeth ei gyrru ar y diwrnod olaf hwnnw, cerbyd y mae bellach yn berchen arno ac wedi’i adfer ar ôl dros dri deg o flynyddoedd.
Dywedodd Josie Rayworth, Swyddog Rheilffordd Cymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig: “Mae hi wedi bod yn fraint arbennig cael dod i adnabod y gymuned hon, rwyf wedi cael croeso gwerth chweil. Rydyn ni wedi chwerthin llawer gyda’n gilydd dros y misoedd diwethaf, ac roeddwn wir yn edrych ymlaen at ein boreau Mawrth gyda’n gilydd. Mae’r prosiect wedi creu albwm hyfryd o atgofion, sy’n llawn cynhesrwydd, hiwmor a hanes. Rwyf wedi mwynhau pob munud o’r prosiect.”
Ychwanegodd Susan, aelod o’r Grŵp Coffee Companions: “Roedd pob un ohonom yn edrych ymlaen at ein boreau coffi bob bore Mawrth. Roedd yn rhoi gwefr i bawb ac yn dod â phobl at ei gilydd. Roeddwn yn falch o helpu Josie gyda’r digwyddiad, ac roedd yn braf cael bod yn rhan o’r holl beth. Roedd yn dda gweld y pentref yn dod ynghyd i rannu atgofion am yr amser a fu.”
Mae llyfryn Cledrau’r Cof, a lansiwyd yn ystod y digwyddiad, wedi helpu i godi bron i £200 i’r Grŵp Coffee Companions. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gweithgareddau parhaus y grŵp a’i gynaliadwyedd yn y tymor hir. Mae fersiwn digidol o’r llyfryn bellach ar gael ar wefan y 3 Sir Gysylltiedig: https://3countiesconnected.org.uk/projects/timeless-tracks/
Nodiadau i olygyddion
Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig yn cynnwys y gwasanaethau rheilffyrdd rhwng Caer – Amwythig – Crewe trwy Wrecsam, ac yn ymgysylltu â’r cymunedau ar hyd y rheilffyrdd hyn, gan weithredu ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn ardaloedd awdurdodau lleol Gorllewin a Dwyrain Sir Caer a Chaer, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Chyngor Sir Amwythig.
Mae 3 Sir Gysylltiedig yn Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol newydd a sefydlwyd ym mis Ebrill 2022. Mae’n cael ei hariannu gan Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast, a’i chynnal gan Groundwork Gogledd Cymru. Nod cyffredinol y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol yw hybu mwy o ddefnydd o ddulliau teithio cynaliadwy ar wasanaethau trên, ac annog cymunedau lleol i ymwneud â’u rheilffordd.
Cyflawnir hyn drwy gynnal pob math o weithgareddau mewn gorsafoedd rheilffyrdd lleol ac ardaloedd cyfagos i ddod â buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i breswylwyr lleol ac ymwelwyr â’r rhanbarth.
Y nod yw helpu pobl i ddewis ffordd o fyw mwy gwyrdd, ac annog grwpiau cymunedol gwahanol i fabwysiadu gorsafoedd a buddsoddi yn rheilffordd Caer – Amwythig– Crewe fel porth i ddangos yr hyn sydd gan pob rhan o Ogledd Cymru ac ardaloedd ar y ffin i’w cynnig.
Mae Groundwork Gogledd Cymru yn elusen sy’n gweithio gyda chymunedau lleol i wella lles. Mae’n rhoi cymorth i bobl sy’n wynebu heriau neu sy’n cael trafferth ymdopi ag unigedd, materion iechyd neu gyfleoedd gwaith cyfyngedig, drwy ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau a gwasanaethau. Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd.