04 Rhag 2025
Caniatawyd y gwaith i adnewyddu gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, sydd werth £140 miliwn, wedi i gyllid gael ei gymeradwyo.
Bydd y gwelliannau'n cynnwys moderneiddio'r orsaf i gefnogi twf hirdymor yn nifer y teithwyr, gan barhau i ategu hanes a threftadaeth yr adeilad.
Bydd cwsmeriaid yn elwa o gyntedd mwy er mwyn cynyddu capasiti, gwelliannau i lif teithwyr drwy’r orsaf yn ogystal â gwelliannau o ran mynediad, gwaith i liniaru problemau gorlenwi a chaiff hygyrchedd gwell ei ddarparu i'r rhai sydd ag anawsterau symud.
Mae manteision eraill i gwsmeriaid yn cynnwys mannau aros ac opsiynau manwerthu gwell a chyfleusterau storio beiciau.
Bydd yr orsaf yn aros ar agor tra bod y gwaith adeiladu yn cael ei gyflawni.
Mae'r cynllun i wella'r orsaf yn cael ei arwain gan Trafnidiaeth Cymru, gyda buddsoddiad o hyd at £140 miliwn yn cael ei ddarparu gan yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru - mae cynigion achos busnes llawn bellach wedi'u cymeradwyo gan bawb.
Fel rhan o’r trawsnewidiad rheilffyrdd parhaus yng Nghymru, bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru, sydd newydd ei adfywio, hefyd yn cyfarfod yng Nghaerdydd am y tro cyntaf erioed heddiw.
Vernon Everitt (Cadeirydd presennol TrC) fydd yn cadeirio a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn agor y cyfarfod.
Bydd y Bwrdd yn goruchwylio blaenoriaethu setliad yr adolygiad gwariant rheilffyrdd, yn asesu cynnydd ar brosiectau rheilffyrdd cyfredol ac yn nodi prosiectau i'w cyflawni yn y dyfodol.
Yn dilyn y cyfarfod, bydd TrC yn cyhoeddi ‘Ymlaen, Gyda’n Gilydd’ - dogfen weledigaeth ar gyfer dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru yn ddiweddarach y mis hwn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae hon yn garreg filltir bwysig i’n cynlluniau uchelgeisiol i uwchraddio gorsaf Caerdydd Canolog, canolfan allweddol ar ein Metro yn Ne Cymru a phorth i brifddinas Cymru.
“Bydd y buddsoddiad ar y cyd o £140 miliwn rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn moderneiddio ac yn gwella’r orsaf, a fydd o fudd i deithwyr ac yn unol â’n huchelgeisiau ar gyfer twf hirdymor.
“Bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru, sydd newydd ei ailwampio, hefyd yn cyfarfod am y tro cyntaf heddiw i drafod prosiectau’r dyfodol fel yr un hwn yn ogystal â chyllid perthnasol.
“Rwy’n hynod falch y bydd Vernon Everitt yn cadeirio’r bwrdd gan ei fod yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd, a fydd yn ein harwain tua’r dyfodol.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn gwella gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru gyda gorsafoedd newydd, trenau cyflymach a mwy o wasanaethau sy’n cysylltu pobl â’r swyddi â chyflog da rydyn ni’n eu creu ledled y wlad ac yn hybu ein twf economaidd.
“Mae ein cyfraniad at ariannu ailddatblygiad gorsaf Caerdydd Canolog yn rhan allweddol o’r rhaglen hon a bydd yn gweld gorsaf fwyaf Cymru yn cael ei thrawsnewid i wella profiad teithwyr drwy leddfu tagfeydd a gwneud yr orsaf yn fwy hygyrch.”
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC: “Mae cymeradwyo’r achos busnes llawn yn rhoi’r golau gwyrdd inni fwrw ymlaen â’n cynlluniau i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen yn fawr ar orsaf Caerdydd Canolog.
“Mae’r buddsoddiad o hyd at £140 miliwn yn golygu y gallwn gyflawni gwelliannau i’r orsaf i’w gwneud yn addas ar gyfer prifddinas a chynnal twf yn y dyfodol, gan ddarparu profiad gwell i gwsmeriaid ein gorsaf.”
“Gan weithio gyda’n contractwr dylunio ac adeiladu, gallwn nawr symud ymlaen â dechrau’r gwaith adeiladu y flwyddyn nesaf.
“Bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru, sydd newydd ei ffurfio, hefyd yn sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ac yn nodi prosiectau’r dyfodol wrth i ni barhau i drawsnewid teithio yng Nghymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a Dirprwy Gadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer ffyniant Caerdydd a’r rhanbarth yn y dyfodol, gan helpu i sicrhau twf hirdymor a chynaliadwy am flynyddoedd i ddod.
"Mae gan Gaerdydd enw da fel lleoliad ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau chwaraeon fel Pencampwriaeth bêl-droed Euro sydd ar ddod yn 2028, a bydd gorsaf Caerdydd Canolog ar ei newydd wedd yn cynyddu ein capasiti ar gyfer hyn yn sylweddol.”
Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail Cymru a'r Gororau: “Mae hwn yn gam cyffrous ymlaen wrth drawsnewid gorsaf Caerdydd Canolog yn borth modern, hygyrch a chroesawgar i Gymru. Fel ased Network Rail rydym yn falch o fod yn berchen arno, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn parhau i wasanaethu’r ddinas a’i theithwyr am genedlaethau i ddod.
“Gan gydweithio â Trafnidiaeth Cymru a’n partneriaid cynghrair ‘Canolog’, rydym wrth ein bodd o gael chwarae ein rhan wrth greu gorsaf sy’n adlewyrchu uchelgeisiau’r brifddinas – gan wella diogelwch, hygyrchedd a chysylltiadau i bawb sy’n ei defnyddio.”
Nodiadau i olygyddion
Noder, at ddibenion darluniadol yn unig y rhennir delweddau a'r daith dywys rithwir a gallant newid wrth i ddyluniadau fynd rhagddynt.
Mae manylion llawn am yr hyn a fydd yn cael ei ddarparu drwy'r cynllun i'w gweld yma: https://trc.cymru/prosiectau/gwelliannau-caerdydd-canolog
Mae 2025 hefyd yn nodi 175 mlynedd ers agor gorsaf Caerdydd Canolog. Cynhelir digwyddiad ar 4 Rhagfyr i ddathlu hanes, treftadaeth ac arwyddocâd diwylliannol unigryw'r orsaf, wrth edrych ymlaen at ei dyfodol cyffrous.
Bydd y gwelliannau arfaethedig yn galluogi'r orsaf, sy'n eiddo i Network Rail, i ffurfio rhan o ganolfan drafnidiaeth integredig yng nghanol y ddinas, a elwir yn Metro Canolog, a fydd yn galluogi ffyrdd hygyrch a chynaliadwy o deithio, sydd wedi’u cysylltu’n well, yn ogystal â chefnogi economi fywiog ac amrywiol a darparu porth eiconig i Gymru.
Mae'r gwaith trawsnewidiol i’r Metro Canolog yn cael ei gyflawni drwy'r gynghrair ‘Canolog’, partneriaeth o sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n gweithio gyda'i gilydd i drawsnewid teithio yng nghanol Caerdydd.
Bydd cynghrair ‘Canolog’ yn cydweithio i gyflawni newid trawsnewidiol i drafnidiaeth yng Nghaerdydd a'r rhanbarth ehangach er mwyn gwella cysylltiadau rhwng bysiau, rheilffyrdd, llwybrau cerdded, olwynio a beicio ac annog teithio cynaliadwy.
Bydd y cynllun yn gwella prif ganolfan drafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn helpu i wella ansawdd aer ac yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon. Mae’r orsaf Metro hon yn gweithredu fel porth i rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd, sy'n cael ei drawsnewid drwy Metro De Cymru.
Mae BAM Nuttall wedi cael ei benodi'n gontractwr dylunio ac adeiladu cyn dechrau'r gwaith adeiladu y flwyddyn nesaf yn dilyn tendr.
Bydd yr orsaf yn parhau ar agor tra bod y gwaith adeiladu yn cael ei gyflawni, yn dilyn caniatâd cynllunio yn gynharach eleni.