Skip to main content

Travel Companions helping people travel by rail

15 Mai 2024

Mae gan bobl sydd â nam ar eu golwg fwy o hyder i deithio diolch i fenter newydd gan Trafnidiaeth Cymru.

Mae timau o Gymdeithion Teithio wedi’u cyflogi mewn gorsafoedd allweddol gan gynnwys Caerdydd Canolog, Caer, Abertawe, Casnewydd a'r Amwythig i helpu'r rhai sydd ag anghenion ychwanegol i deimlo'n fwy hyderus wrth deithio.

Yn Abertawe y mis hwn, cyfarfu aelodau Guide Dogs Cymru â’r tîm Cymdeithion Teithio i ddeall sut y byddai'r rolau newydd yn gweithio.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:

“Mae'r fenter wych yma yn rhoi cymorth ychwanegol i bobl â nam ar eu golwg. Gall gwybod bod cymorth ar gael gwneud byd o wahaniaeth.”

Dywedodd Andrea Gordon, Rheolwr Materion Allanol Guide Dogs Cymru:

"Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol er mwyn i bobl sydd wedi colli eu golwg fynd allan a byw bywyd fel y maen nhw’n dymuno. Gall cael ci tywys agor byd hollol newydd o bosibiliadau teithio annibynnol ond, o ran teithiau trên, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar y perchennog i gael mynediad i'r orsaf a dod o hyd i'w trên. Efallai y bydd angen help neu gyngor arnynt hefyd yn ystod eu taith. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun Cymdeithion Teithio yn helpu i wneud teithio ar drên yn brofiad gwell iddynt."

Yng Ngorsaf Reilffordd Abertawe, crëwyd swyddfa newydd ar flaen yr orsaf lle gall cwsmeriaid ddod i siarad â'r tîm a chael cyngor ynglŷn â phrynu tocynnau, neilltuo seddi, derbyn cymorth yn ystod eu taith a dod o hyd i wybodaeth am amhariadau. Mae'r tîm ar gael rhwng 8yb ac 8yp bob dydd.

Ac er bod cryn dipyn o fuddsoddiad wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wneud pob trên ar lwybrau Cymru a'r Gororau yn gwbl hygyrch, dim ond 13% o’r bobl anabl a holwyd sydd yn defnyddio trenau a ddywedodd y gallant ddefnyddio'r trên yn hyderus ac yn rhwydd.

Dywedodd Cydymaith Teithio Abertawe, Suzanne Churchouse bod y rolau newydd yn "hynod o werth chweil".

Meddai: "Rydyn ni i gyd yn newydd i'r rolau hyn felly mae hi wedi bod yn wych dysgu gyda'n gilydd a dod o hyd i'r ffyrdd gorau o helpu cwsmeriaid. Mae'n amlwg bod gan bob cwsmer ei anghenion a'i bryderon unigol wrth deithio ac i ni, mae rhoi’r hyder iddyn nhw i deithio yn hynod o werth chweil.

"Mae hi wedi bod yn wych gweithio gyda pherchnogion cŵn tywys i ddeall yr hyn sydd ei angen ar deithwyr pan fyddan nhw'n cynllunio taith. Mae pethau fel sicrhau bod digon o le i'w ci eistedd wrth eu hymyl a’u bod nhw’n gallu eistedd yn rhan gywir y trên yn allweddol."

Mae pob cydymaith teithio wedi cael hyfforddiant tywys gyda Chŵn Tywys hefyd. Trefnwyd yr ymweliad fel rhan o gynllun ‘Teithio’n Hyderus’ TrC, sy'n ceisio cefnogi pobl nad ydynt o bosib yn defnyddio'r trên yn aml iawn neu a allai fod angen cymorth ychwanegol wrth deithio.

Dan arweiniad y tîm rheilffyrdd cymunedol, mae'r cynllun yn gweithio gyda grwpiau cymorth cymunedol i helpu pobl i gael y profiad, y wybodaeth a'r hyder i deithio ar y trên. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy gysylltu â community@tfw.wales 

Gallwch archebu Cymorth wrth Deithio ar gyfer eich taith gyfan hyd at ddwy awr cyn i'ch taith ddechrau trwy'r dulliau canlynol:

Ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr: 03330 050 501

Defnyddiwch ein gwasanaeth Neges Destun y Genhedlaeth Nesaf 18001 03330 050 501 (ar gyfer pobl ag anawsterau clyw a lleferydd) Chwiliwch ar-lein: Archebu cymorth arbennig | TrC