14 Mai 2025
Pleser gan Trafnidiaeth Cymru yw cyhoeddi mai Stadler ac Amey fydd prif noddwyr yr Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus a gynhelir yn Wrecsam yn ddiweddarach y mis hwn.
Cynhelir Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru ar 22 a 23 Mai – a hynny am y tro cyntaf - a'i bwriad yw dod ag arweinwyr trafnidiaeth a busnes dylanwadol Cymru a Lloegr ynghyd.
Bydd yr Uwchgynhadledd ddeuddydd yn ceisio datgloi ffyniant economaidd o bersbectif trafnidiaeth gyhoeddus.
Dros y pum mlynedd diwethaf, crëwyd partneriaeth gyda Stadler ac Amey, gan helpu i greu newid trawsnewidiol i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Tra bo Stadler wedi darparu trenau newydd sbon i rwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yng Nghymru, mae Amey wedi bod yn bartner allweddol o ran trydaneiddio Metro De Cymru - prosiect gwerth £1 biliwn.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Pleser o’r mwyaf i mi yw gallu cyhoeddi mai Stadler ac Amey fydd prif noddwyr ein Huwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i archwilio dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus a bydd ein noddwyr yn rhan o'r drafodaeth honno.”
Ychwanegodd Ralf Warwel, cyfarwyddwr gwerthiant Stadler yn y DU ac Iwerddon:
“Mae’n bleser o’r mwyaf gan Stadler ddarparu 71 o drenau ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Mae technoleg batri arloesol yn nodwedd bwysig ar y trenau tram Citylink a ddarparwn, yn ogystal â 24 o drenau FLIRT. Maent yn tanlinellu ymrwymiad Stadler i dechnoleg werdd a hyrwyddo rheilffordd sydd wedi'i datgarboneiddio.
“Mae'n anrhydedd bod yn rhan o uwchgynhadledd Trafnidiaeth Cymru. Mae gennym y parch mwyaf i'n cleient wrth iddynt geisio pwysleisio'r cysylltiad rhwng trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel a thwf economaidd yng Nghymru.”
Ychwanegodd James Holmes, Cyfarwyddwr Sector Busnes Rheilffyrdd Amey:
"Ers dros 100 mlynedd, mae Amey wedi trawsnewid seilwaith y DU, gan gysylltu cymunedau, gyrru'r economi, a gwella bywydau. Gan weithio ar y cyd â TrC a'n cadwyn gyflenwi, rydym wedi cyfuno ein galluoedd cylch bywyd cyfan i ddylunio a dod o hyd i ateb i greu systemau rheilffyrdd arloesol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Drwy drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn wasanaeth modern, wedi'i drydaneiddio ar ffurf Metro, rydym wedi creu teithio cynaliadwy, dibynadwy a chyfleoedd heb eu hail i bobl De Cymru.
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym ni noddi'r Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus. Bydd yn gyfle i ni arddangos ein harbenigedd, rhwydweithio ag arweinwyr ar draws y diwydiant a helpu i lunio trafnidiaeth gyhoeddus fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ffynnu.”