Skip to main content

New railway accessibility book introduces Rupee and Sushi to train users

23 Mai 2024

Lansio 'Teithiau Rupee a Sushi ar y Trên’, llyfr ‘dewis eich taith eich hun’ sy’n trin a thrafod hygyrchedd y rheilffyrdd, yn ystod Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol.

Wedi'i hysgrifennu gan yr archwilydd diogelwch rheilffyrdd a'r gwirfoddolwr hygyrchedd Carys R Thomas gyda darluniau gan yr artist Donna M Nicholson, mae'r stori ryngweithiol hon yn dilyn dau gi bach, Rupee a Sushi, ar eu taith trên gyntaf gan dynnu sylw at rai o nodweddion hygyrchedd y rheilffordd, gyda’r nod o wella hyder pobl wrth deithio.

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru (TrC):

“Wedi'u hysbrydoli gan gŵn go iawn hynod o annwyl, mae Rupee a Sushi yn gymeriadau sy'n ymgysylltu â'r darllenydd er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn cael profiadau cadarnhaol wrth deithio ar ein rhwydwaith rheilffyrdd yn ogystal â helpu i gysylltu ein cymunedau â'u rheilffyrdd yn ddiogel."

Mae'r llyfr, a gyhoeddwyd yn Gymraeg gan Bartneriaeth Reilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru ac yn Saesneg gan Severnside Community Rail Partnership, ar gael am ddim diolch i gyllid gan Trafnidiaeth Cymru, Avanti West Coast, Great Western Railway a Transreport.

Wedi’i noddi gan Rail Delivery Group, cynhelir Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol rhwng 20 a 26 Mai a'r thema eleni yw 'Mwy na Rheilffordd', sy’n tynnu sylw arbennig at y cymunedau sy’n byw ger ein rheilffordd, sydd ddim yn cael cymaint o gyhoeddusrwydd, a hyrwyddo manteision hynny.

Ddydd Llun, fe ymunodd plant ysgol lleol a’r partneriaethau yng ngorsaf Bangor i ddathlu cyhoeddi’r llyfr. Fel rhan o’r digwyddiad, cafwyd darlleniad o fersiwn Gymraeg o’r llyfr gan Lowri Joyce, Pennaeth y Gymraeg TrC.

Dywedodd Karen Williams, Swyddog Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru:

"Mae lansio'r llyfr Cymraeg yng ngorsaf Bangor yn ystod Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol gyda chydweithwyr o Heddlu Trafnidiaeth Prydain, TrC ac Avanti yn dangos pwysigrwydd diogelwch a hygyrchedd mewn gorsafoedd, yn ogystal â’r anturiaethau y gellir eu mwynhau ar y rhwydwaith rheilffyrdd."

Dywedodd Joanna Buckley, Rheolwr Cymunedol Avanti West Coast:

“Rydym yn falch o chwarae rhan yn helpu i addysgu plant am hygyrchedd a diogelwch ar y rheilffordd gyda'r llyfr gwych hwn. Drwy ddilyn anifail anwes cyfarwydd yn teithio ar y tren, rydym yn gobeithio tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael cyn mynd ar y trên ac yn ystod y daith, mewn ffordd sy’n ymgysylltu’n effeithiol â’r darllenwr.

Rydym wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, felly mae ymuno â phartneriaid yn y diwydiant i ariannu'r llyfr unigryw hwn yn golygu y gall plant ysgol ledled y DU ddysgu pa gymorth ychwanegol sydd ar gael i bobl, gan eu helpu gobeithio i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus wrth deithio ar y trên."

Mae copïau o'r llyfr ar gael i'r ddwy bartneriaeth rheilffyrdd cymunedol a gellir gweld copïau digidol yn Gymraeg a Saesneg ar-lein. Gellir hefyd gael rhagolwg ar y llyfrau trwy blatfform ‘Rheilffyrdd Diogel Cyfeillgar’ LiveLEARN.

Er mwyn creu’r stori, fe wnaeth Carys ddwyn ysbrydoliaeth o'i phrofiad fel Rheolwr Archwilio Diogelwch a’i phrofiad fel Gwirfoddolwr Hygyrchedd i Great Western Railway, yn ogystal â bywydau go iawn Rupee a Sushi.

Dywedodd: "Mae'n swreal gweld y prosiect a'm gweledigaeth ar ei gyfer wedi’i wireddu. Rwyf wedi cael cefnogaeth aruthrol gan bartneriaid rheilffyrdd cymunedol, cwmnïau trenau, adolygwyr a grwpiau arbenigol. Mae Donna wir wedi llwyddo i ddal hanfod ein cŵn a'r stori yn ei darluniau, sy'n ategu at y cynnwys. Rwy'n gobeithio y bydd y llyfr hwn yn gymorth mawr i unigolion, grwpiau ac ysgolion ag anghenion ychwanegol i allu defnyddio’r rheilffordd. Rwy'n gobeithio y bydd y cyhoedd yn ei fwynhau ac yn elwa o’r cyngor defnyddiol a gwerthfawr sydd ynddo.

Nodiadau i olygyddion


Gall Partneriaid Rheilffyrdd Cymunedol a chwmnïau trenau archebu’r llyfr trwy gysylltu ag Aaron Jackson yn Cosmos Solutions, aaron.jackson@cosmossolutions.co.uk neu drwy ffonio 0800 755 5086.

Bydd logos y noddwyr gwreiddiol yn parhau i fod ar gefn y clawr ynghyd â’r wybodaeth am y llyfr, ond wrth archebu llyfr, mae gan brynwyr yr opsiwn i anfon eu logos eu hunain at yr argraffydd, a fydd yn eu cynnwys gyferbyn â'r clawr mewnol gyda'r testun, 'Noddwyd ailargraffiad y llyfr hwn gan...''