Skip to main content

Plans revealed for a new tramway between Cardiff Central and Cardiff Bay

15 Medi 2024

Mae cynlluniau wedi'u datgelu ar gyfer tramffordd newydd sbon rhwng gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, gan gysylltu'r ddau gyda lein drên a hynny am y tro cyntaf erioed.

Bydd cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd, sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru (TrC), yn gwella'r rhwydwaith trenau rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd yn sylweddol, gan fod o fudd i'r ddinas a'r rhanbarth ehangach.

Gwahoddir y cyhoedd i ddweud eu dweud fel rhan o ymgynghoriad 6 wythnos sy'n dechrau heddiw (16 Medi) nes 27 Hydref 2024. Dyma ddolen yr ymgynghoriad: https://dweudeichdweud.trc.cymru/cledrau-croesi-caerdydd

Fel rhan o’r cynllun, bydd gorsaf newydd gyda dau blatfform yn cael ei hadeiladu yn rhan ddeheuol maes parcio gorsaf drenau Caerdydd Canolog ynghyd â chyfnewidfa syml yn yr orsaf. Bydd y trên-tram newydd yn rhedeg o ran ddeheuol maes parcio gorsaf Caerdydd Canolog, trwy Sgwâr Callaghan ac yn ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd ac yn teithio yn ei flaen i Fae Caerdydd.

Bydd trydydd platfform yn cael ei adeiladu yng ngorsaf reilffordd Bae Caerdydd fel rhan o'r cynllun, sy'n ychwanegol at yr ail blatfform sydd eisoes yn cael ei adeiladu fel rhan o'r trawsnewid parhaus ar reilffordd Bae Caerdydd, yn sgil Metro De Cymru.

Mae Cyngor Caerdydd a TrC yn awyddus i gael adborth ar ddyluniadau arfaethedig y cynigion ar gyfer y dramffordd newydd. Croesewir barn a syniadau hefyd ar welliannau i fannau cyhoeddus ar y llwybr i gysylltu cymunedau, lleoedd ac atyniadau cyfagos.

Dywedodd y Cynghorydd De'Ath, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd: “Mae prosiect Cledrau Croesi Caerdydd wedi bod yn uchelgais ers amser maith a phan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn cysylltu rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd â'r rhwydwaith trenau a hynny am y tro cyntaf.

“Yn amodol ar gyllid, bydd Cledrau Croesi Caerdydd yn teithio o ben draw gogledd-orllewin y ddinas, yr holl ffordd i ddwyrain y ddinas gan gysylltu â gorsaf reilffordd arfaethedig Parcffordd/Parkway.

"Er mwyn gallu dechrau'r broses hon, rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Bydd hyn o'r diwedd yn sicrhau bod Butetown yn cael ei gysylltu'n llawn â chanol y ddinas, yn sgil y dramffordd newydd, gan ddarparu mwy o gapasiti i drigolion ac ymwelwyr gael mynediad at yr ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i'w cynnig. Rydym am i'r cyhoedd gymryd rhan yn y broses ymgynghori, fel y gallant roi eu hadborth ar gam cyntaf y prosiect cyffrous hwn."

Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith TrC: “Heddiw, mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, rydym yn rhannu cynlluniau cyffrous ar gyfer adeiladu tramffordd newydd sbon rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Bae Caerdydd. Mae'r cynlluniau hyn yn cyd-fynd â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i adeiladu trac newydd ar lein y Bae i ganiatáu gwasanaethau cyflymach ac amlach gyda gwasanaeth trên-tram newydd sbon.

“Ein huchelgais yw y bydd y dramffordd newydd yn cyfrannu at rwydwaith trafnidiaeth fwy cynaliadwy i Gaerdydd, gan annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref a dewis ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio.

“Rydym am gael barn a sylwadau cymaint o bobl ac sy'n bosibl ar y cynigion hyn ac mae croeso iddynt ofyn cwestiynau hefyd.  Bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau allweddol ar y cynllun. Bydd cyfraniadau gan ein cymunedau yn helpu i roi siâp i’r prosiect hwn fel y gallwn ddarparu tramffordd gyhoeddus y gall pobl fod yn falch ohoni."

Bydd cyfres o ddigwyddiadau galw heibio yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael sgwrs â thimau'r prosiect, dysgu mwy amdano a gofyn cwestiynau am y cynigion.

Nodiadau i olygyddion


Bydd Cyngor Caerdydd a TrC yn cynnal galwad i'r cyfryngau ddydd Llun 16 Medi rhwng 10-11am yng ngorsaf reilffordd Bae Caerdydd lle bydd cyfle i gynnal cyfweliadau. Noder mai dim ond o ochr Stryd Bute o'r orsaf y gellir cyrraedd platfform gorsaf Bae Caerdydd ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â James Williams:  james.williams@tfw.wales   / 02921053969.

Mae'r darluniau a gynhwysir yn y pecyn hwn at ddibenion eglurhaol yn unig a gallant newid wrth i ddyluniadau ddatblygu. Mae cyflwyno Cam 1A prosiect Cledrau Croesi Caerdydd (o orsaf Caerdydd Canolog i orsaf Bae Caerdydd) yn amodol ar Achos Busnes yn cael ei gymeradwyo, Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith arfaethedig, Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ac argaeledd cyllid.

Dyma'r ddolen i'r ymgynghoriad:  https://dweudeichdweud.trc.cymru/cledrau-croesi-caerdydd.  Yn nhudalennau’r prosiect ar-lein, mae rhagor o wybodaeth am y dramffordd arfaethedig, gan gynnwys delweddau a fideo rhithwir sy'n rhoi syniad sut i chi o sut olwg fyddai ar brosiect o'r fath. Gall y cyhoedd hefyd ddod o hyd i fanylion am y sesiynau galw heibio cyhoeddus a gynhelir trwy gydol y cyfnod ymgynghori, a fydd yn gyfle i ddysgu mwy a gofyn cwestiynau am y cynllun. Bydd yr arolwg hwn yn fyw nes 11:59pm ar 27 Hydref.

Mae Cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd yn rhan o weledigaeth ehangach Cledrau Croesi Caerdydd a gyflwynwyd yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth, a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd ym mis Gorffennaf 2019.    Mae'r papur yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol 10 mlynedd ar gyfer trafnidiaeth yn y brifddinas.

Mae'r cynllun yn cyd-fynd yn llawn â'n dyheadau ar gyfer Metro De Cymru. Bydd yn cyd-fynd â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i adeiladu platfform newydd ar lein Bae Caerdydd i ganiatáu gwasanaethau cyflymach ac amlach ar wasanaeth trên-tram newydd sbon.

Er mwyn gallu rhoi cam cyntaf prosiect Cledrau Croesi Caerdydd ar waith, bydd newidiadau yn cael eu gwneud i gynllun ffyrdd Sgwâr Callaghan a llwybrau traffig yn yr ardal. Bydd gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i gysylltiadau teithio llesol (cerdded, beicio ac olwynio) â rhannau newydd o lwybr beicio ar wahân a gwella llwybrau troed i gerddwyr.

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda TrC i archwilio'r posibilrwydd o ddarparu cysylltiad newydd rhwng gorsaf Bae Caerdydd a gorsaf newydd sbon ar Stryd y Pierhead (Cam 1b Cledrau Croesi Caerdydd), sy'n amodol ar sicrhau cyllid ychwanegol.

Sicrhaodd Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â TrC, £100 miliwn o gyllid ar gyfer Cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd, i ddarparu tramffordd rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Bae Caerdydd.  Sicrhawyd £50 miliwn gan Lywodraeth y DU, gyda chyllid cyfatebol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect.