Skip to main content

TfW Storm Timetable Announced Ahead of Storm Barra: Check Before You Travel!

07 Rhag 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn annog cwsmeriaid i wirio cyn teithio dros y dyddiau nesaf, gan mai'r tebygolrwydd yw y bydd Storm Barra yn effeithio ar y rhwydwaith reilffyrdd o ddydd Mawrth 7 Rhagfyr (0600). 

Mae amserlen ddiwygiedig, i ystyried cyfyngiadau cyflymder angenrheidiol ar draws cymru, yn disodli'r amserlen arferol tan ddiwedd y gwasanaeth ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021.   Gan ddibynnu ar y math o effaith a gaiff Storm Barra ar y rhwydwaith, mae'r amserlen yn destun newidiadau munud olaf.

Ar hyn o bryd, mae TrC gam i ffwrdd o rybuddio cwsmeriaid i ond wneud teithiau hanfodol ar eu gwasanaethau.  Y teimlad yw y bydd yr effaith â gaiff Storm Barra yn debyg i'r effaith â gafodd Storm Arwen.  Gwelodd y storm honno oddeutu 40 digwyddiad o draciau yn cael eu blocio gan goed wedi cwympo a difrodi 12 trên, y mae llawer ohonynt yn dal i gael eu hatgyweirio.

Mae Network Rail wedi rhoi cyfyngiad cyflymder o 40mya ar y mwyafrif o linellau yng Nghymru yn ystod y storm i sicrhau diogelwch, ond mae hyn yn golygu y bydd teithiau'n cymryd llawer mwy o amser ac na fyddai'r amserlen gyfredol yn gweithio. Felly mae staff TfW wedi creu amserlen storm arbennig i geisio cadw cymru i symud ddydd Mawrth a dydd Mercher.

Yn siarad cyn cyflwyno'r amserlen argyfwng, dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC:

“Gofynnwn i bob cwsmer o leiaf wirio cyn teithio ddydd Mawrth a dydd Mercher gan y bydd yr amserlen storm arbennig yn disodli ein hamserlen arferol.  Golyga hyn y bydd cryn dipyn o'n gwasanaethau naill ai'n gweithredu ar wahanol adegau, yn cymryd mwy o amser i gyrraedd cyrchfannau neu ni fyddant yn rhedeg o gwbl.

“Diogelwch cwsmeriaid sydd wrth wraidd popeth a wnawn ac er ein bod yn deall y gallai hyn achosi anghyfleustra i rai, mae gwyntoedd cryf a phatrymau tywydd eithafol yn golygu bod yn rhaid i ni roi'r trefniadau dros dro hyn ar waith.  Hoffwn ddiolch ymlaen llaw i'n holl gwsmeriaid am eu dealltwriaeth."

Gyda disgwyl y bydd cyflymder y gwynt mewn rhai rhannau o Gymru yn cyrraedd 70mya, mae risg uchel iawn y gall malurion a choed ddifrodi llinellau uwchben a thraciau.

Dywedodd Rachel Heath, Pennaeth Cyflenwi Gweithrediadau Network Rail Cymru a'r Gororau: 

“Gyda Storm Barra ar y ffordd rydym yn rhoi cyfyngiadau cyflymder ar waith ar draws sawl rhan o Gymru a'r Gororau i gadw teithwyr yn ddiogel rhag malurion a choed ar y lein.

“Bydd ein timau o beirianwyr ymroddedig yn gweithio ddydd a nos i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau a chadw teithwyr i symud.”

Llwytho i Lawr