Skip to main content

Cross-border restrictions between Wales and England to continue

07 Tach 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa teithwyr y bydd cyfyngiadau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn dal i fod yn eu lle pan ddaw’r ‘cyfnod atal byr’ cenedlaethol i ben ddydd Llun (9 Tachwedd).

Er na fydd cyfyngiadau ar deithio o fewn Cymru o ddydd Llun ymlaen, dim ond gydag esgus rhesymol y bydd modd teithio ar draws ffin Cymru-Lloegr.

Mae enghreifftiau o esgus rhesymol yn cynnwys teithio ar gyfer gwaith, addysg, apwyntiad meddygol, gofyniad cyfreithiol neu ar sail dosturiol.

Mae cyfyngiadau symud Lloegr hefyd yn golygu na chaniateir teithio ar draws ffiniau oni bai fod un o’r eithriadau yn rheoliadau Lloegr yn berthnasol.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Wrth i’r newidiadau i gyfyngiadau cenedlaethol ddod i rym yng Nghymru a Lloegr, rydym am wneud yn siŵr bod neges glir i deithwyr sy’n defnyddio pob math o drafnidiaeth.

“Dim ond gydag esgus rhesymol y caniateir teithio rhwng Cymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn nad yw hyn yn cynnwys pethau fel ymweld â chanolfannau lletygarwch neu siopau.

“Unwaith eto, hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth, mae’r mwyafrif llethol o bobl wedi bod yn glynu wrth y rheolau ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau pan ddaw’r newidiadau i rym yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.”

Llwytho i Lawr