27 Ion 2025
Mae'n bleser gan Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi y bydd Cyfnewidfa Fysiau Y Porth yn agor dydd Iau 30 Ionawr, gan ganiatáu i gwsmeriaid archwilio'r cyfleuster newydd sbon cyn i Stagecoach ddechrau gweithredu gwasanaethau bws o'r safle o ddydd Sul 2il Chwefror.
Dydd Iau 30 Ionawr, bydd TrC yn agor y gyfnewidfa newydd yn swyddogol i'r cyhoedd. Bydd hyn yn caniatáu i ymwelwyr ddysgu mwy am nodweddion y cyfleuster cyn i Stagecoach ddechrau rhedeg gwasanaethau bws o'r gyfnewidfa. Bydd tîm o Lysgenhadon Cwsmeriaid wrth law i ddarparu gwybodaeth am y cyfleuster newydd a'i wasanaethau.
Mae TrC wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, a sicrhaodd y cyllid gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer y prosiect drwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Roedd y Cyngor yn allweddol wrth adeiladu'r gyfnewidfa, a oedd yn cynnwys dymchwel sawl adeilad, dewis prif gontractwr a hwyluso cam adeiladu'r ganolfan drafnidiaeth fodern.
Unwaith iddi agor, caiff y gyfnewidfa ei gweithredu gan TrC gyda Stagecoach yn rhedeg eu gwasanaethau bws lleol ohoni.
Mae'r gyfnewidfa yn cynnwys saith bae bws, gwell cyfleusterau beicio a swyddfa docynnau newydd ar gyfer prynu tocynnau trên. Mae hefyd yn cynnwys sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid sy'n dangos amseroedd gadael byw ar gyfer gwasanaethau trên a bws, cyfleusterau toiledau a safle tacsis newydd. Mae'r datblygiad hwn wedi trawsnewid ardal wreiddiol yr orsaf yn ganolbwynt trafnidiaeth modern a hygyrch.
Bydd agor y cyfleuster newydd hwn, ynghyd â chyflwyno trenau tri-modd newydd sbon ar lein Treherbert o fis Ionawr 2025, yn trawsnewid teithio o fewn y rhanbarth fel rhan o Metro De Cymru.
Yn ogystal ag agor y gyfnewidfa fysiau, bydd TrC a Stagecoach yn lansio tocyn trên a bws integredig newydd cyn bo hir ar gyfer cymunedau yn y Rhondda Fach. Bydd rhagor o wybodaeth am yr opsiwn tocyn newydd hwn ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid i weld y cyfleuster newydd a dysgu am y gwasanaethau bws sydd ar gael. Rydym yn gwerthfawrogi amynedd y gymuned leol ac yn falch iawn o gael agor y cyfleuster ddydd Iau."
Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r gyfnewidfa fysiau fodern yn brosiect canolog yn ein Strategaeth Adnewyddu Y Porth a bydd yn gyfleuster pwysig yn rhanbarthol – gan fanteisio ar leoliad y dref fel porth i gymoedd Rhondda, a thrwy gynnig gwasanaethau amlach trwy'r Metro.
“Bydd y gyfnewidfa yn dod â gwasanaethau bws a thrên at ei gilydd, gan ei gwneud yn fwy cyfleus i gymudwyr sydd angen dal y trên ar gyfer un rhan o'u taith a'r bws ar gyfer rhan arall y daith. Ei nod fydd mynd i'r afael â sawl rhwystr fel cerdded rhwng sawl safle, gorfod prynu mwy nag un tocyn, ac amseroedd aros rhwng gwasanaethau.
"Rydym yn cydnabod y bu oedi hir cyn cael y cyfleuster yn barod i agor, a bod trigolion wedi aros amdano am amser hir. Fodd bynnag, dw i’n falch y bydd y cyfleusterau newydd sbon hyn ar gael cyn bo hir, gyda'r trefniadau agor bellach wedi'u cytuno."
Nodiadau i olygyddion
Bydd bysiau Stagecoach yn parhau i weithredu o'r safleoedd bws ar Heol Pontypridd nes iddynt drosglwyddo i'r gyfnewidfa newydd o ddydd Sul 02 Chwefror..
Bydd pont droed gorsaf Y Porth hefyd yn ailagor dydd Iau 30 Ionawr, gan ddarparu mynediad heb risiau i ddau blatfform yr orsaf a chysylltiad uniongyrchol ag adeilad y gyfnewidfa gan ddefnyddio lifft.