30 Meh 2025
Mae mwy na dwy filiwn o deithwyr wedi defnyddio Cyfnewidfa Fysiau newydd Caerdydd yn ei blwyddyn gyntaf ers agor.
Mae'r gyfnewidfa, a agorodd ar 30 Mehefin 2024, bellach yn gwasanaethu rhwng 8,000 a 9,000 o deithwyr y dydd ac mae 58 o wasanaethau bws yn gweithredu bob awr o'i lleoliad yng nghanol y ddinas.
Yn dilyn ychwanegu 14 llwybr arall ym mis Medi 2024, mae nifer y gwasanaethau sy'n defnyddio'r gyfnewidfa wedi cynyddu o 1,830 i 3,476 bob wythnos.
Dywedodd Gavin Hawkins, Rheolwr Gweithrediadau Cyfnewidfa Fysiau: “Wrth ddathlu pen-blwydd cyntaf Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd, rydym yn falch o weld y weledigaeth yn dod yn fyw, gyda nifer gynyddol o wasanaethau a chynnydd sylweddol yn y defnydd gan gwsmeriaid.
Mae'r garreg filltir hon yn adlewyrchu ymroddiad ein tîm ac ymddiriedaeth y gweithredwyr bysiau a'r cwsmeriaid, wrth helpu i wneud y gyfnewidfa yn rhan allweddol o rwydwaith trafnidiaeth Caerdydd, ar gyfer teithio di-dor a chynaliadwy.”
Mae nodweddion Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cynnwys sgriniau gwybodaeth fyw i gwsmeriaid ar gyfer bysiau sy'n gadael y gyfnewidfa a chysylltiadau rheilffordd, siop goffi Starbucks, mannau ail-lenwi dŵr am ddim, lloriau botymog a mapiau hygyrchedd, toiled Changing Places, toiledau cwbl hygyrch, toiledau neillryw unigol ac ystafell deulu â chyfarpar llawn.