Skip to main content

Cardiff Bus Interchange – Opening Date

30 Mai 2024

Pleser gan Trafnidiaeth Cymru yw cyhoeddi y bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn agor fis Mehefin a bwriedir i wasanaethau bws ddechrau gwasanaethu ohoni ddydd Sul 30 Mehefin 2024.

Ar 27, 28 a 29 Mehefin bydd TrC yn agor y drysau i'r gyfnewidfa newydd fel y gall aelodau'r cyhoedd ddysgu am y cyfleusterau newydd sydd ar gael cyn i wasanaethau bysiau ddechrau gweithredu yn swyddogol ar 30 Mehefin.

Gyda 14 bae bysiau, bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn cael ei rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru a bydd yn helpu i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Bydd Llysgenhadon Cwsmeriaid wrth law yn ystod y diwrnodau y bydd y gyfnewidfa ar agor i’r cyhoedd er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am y gwasanaethau newydd ac i ateb unrhyw gwestiynau.

Mae TrC wedi bod yn gweithio gyda gweithredwyr bysiau lleol i gadarnhau pa wasanaethau fydd yn gweithredu o'r gyfnewidfa newydd pan fydd yn agor - bydd y manylion hyn yn cael eu rhannu'n fuan.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC:

"Pleser o’r mwyaf yw agor y gyfnewidfa fysiau newydd fis nesaf. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid ar 27, 28 a 29 Mehefin i weld y cyfleusterau newydd a dysgu am y gwasanaethau bysiau newydd.

"Byddwn yn cadarnhau pa wasanaethau bysiau fydd yn gweithredu o'r gyfnewidfa newydd yn fuan."

Mae TrC wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau bysiau a Chyngor Caerdydd i baratoi ar gyfer agor y gyfnewidfa.