17 Tach 2024
Bydd trenau trydan ‘tri-moddol' yn dechrau gwasanaethu teithwyr am y tro cyntaf yn y DU heddiw (18 Tachwedd) fel rhan o Metro De Cymru.
Byddant yn cael eu cyflwyno ar reilffyrdd y Cymoedd yn Ne Cymru am y tro cyntaf erioed. Mae hon yn garreg filltir eithriadol o bwysig i Metro De Cymru.
Byddant yn dechrau cludo teithwyr ar linellau Merthyr ac Aberdâr, ac yna ar linell Treherbert. Byddant yn dechrau ar eu gwaith yn raddol ac mewn amser, byddant yn disodli trenau hŷn TrC. Erbyn gwanwyn nesaf (2025), bydd pedwar ar ddeg wedi ymuno â’n gwasanaethau trenau.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi rhoi chwe deg pump o drenau newydd sbon a saith trên MK4 o'r radd flaenaf ar waith ar rwydwaith Cymru a'r Gororau. Roedd hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £800 miliwn mewn trenau newydd.
Wedi'i hadeiladu gan Stadler, y gwneuthurwr trenau blaenllaw, bydd y Trenau Dosbarth 756 Fast Light Intercity a'r Trenau Rhanbarthol (FLIRTs) newydd yn cael eu pweru gan wifrau trydan uwchben. Cafodd y gwifrau hyn eu gosod yn ddiweddar ac maent yn cludo 25,000 folt o drydan.
Y trenau ‘tri-moddol’ trawsnewidiol hyn yw'r cyntaf yn y DU a all ddefnyddio diesel neu fatri ar rannau o drac rheilffordd lle nad oes gwifrau trydan uwchben.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Mae hwn yn newyddion gwych ac yn foment wirioneddol hanesyddol wrth i drenau trydan newydd sbon gael eu rhoi ar waith am y tro cyntaf ar Metro De Cymru. Bydd y trenau trydan hynod fodern hyn, sydd â mwy o le arnynt, yn cynnig profiad teithio cyfforddus i gwsmeriaid a bydd ganddynt y dechnoleg ddiweddaraf o ran wi-fi ynghyd â sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid sy’n arddangos yr wybodaeth deithio ddiweddaraf un. Mae siawns y bydd y trenau hyn yn annog mwy o bobl i ddewis y trên fel eu dewis teithio."
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae hon yn foment enfawr i TrC a Chymru. Ni yw'r cyntaf yn y DU i ddefnyddio trenau 'tri-moddol’ modern i gludo teithwyr.
“Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae ein timau a'n partneriaid cyflenwi wedi bod yn gweithio ar drawsnewid seilwaith rheilffyrdd yn Ne Cymru. Mae hwn yn cynrychioli’r cam nesaf yn nhaith Metro De Cymru.
“Yn dilyn moderneiddio a thrydaneiddio'r rheilffordd, rydym yn hynod falch o allu rhoi ar waith y cyntaf o'r trenau trydan newydd sbon hyn.
“Rydym eisoes wedi cyflwyno chwe deg pump o drenau newydd sbon i'n rhwydwaith cyfan. Mae'r ffaith ein bod yn gallu cyflwyno ein trenau trydan Dosbarth 756, trenau sydd â mwy o le arnynt, gwell seddi, aerdymheru modern, socedi pŵer, wifi a sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid sy’n arddangos yr wybodaeth deithio ddiweddaraf un yn hynod gyffrous. Hefyd, mae’r rhynglefel rhwng y trên a'r platfform yn wastad ac mae lle i chwe beic arnynt.”
Ychwanegodd Emil Hansen, Rheolwr Prosiectau Masnachol Stadler:
“Mae'n hynod gyffrous gweld y trenau FLIRT tri-moddol cyntaf yn y DU yn dechrau ar eu gwaith yn gwasanaethu cwsmeriaid yng Nghymru. Gan ddefnyddio technoleg batri, mae'r cerbydau rheilffyrdd hyn yn torri tir newydd; maent yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen yn ymdrechion Trafnidiaeth Cymru i hybu datgarboneiddio a thechnoleg ragorol Stadler ac ymrwymo i ynni glân.
“Mae gweld y trenau eithriadol fodern hyn ar waith yn dyst i'r cydweithio effeithiol sy’n bodoli rhwng Trafnidiaeth Cymru, Stadler a llawer o sefydliadau eraill. Ry'n ni'n edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar y bartneriaeth hynod lwyddiannus hon.”
Mae’r gwaith o drawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.
Nodiadau i olygyddion
Dros y misoedd nesaf, bydd y trenau hyn yn dechrau gwasanaethu teithwyr ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert, gan gymryd lle trenau hŷn. Bydd cyfanswm o 14 uned trên ar waith erbyn Gwanwyn 2025.
Bydd y trenau hyn yn rhedeg ar hyd y llinellau hyn tan ddiwedd 2025. Bryd hynny, byddant yn dechrau gwasanaethu ar linellau Rhymni a Bro Morgannwg gan y bydd y Trenau-tram newydd sbon yn dechrau gwasanaethu teithwyr.
O hynny ymlaen, bydd y trenau dosbarth 756 yn teithio rhwng Coryton a Chaerffili i Benarth, a rhwng Rhymni ac Ynys y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r ffaith bod y trenau hyn yn dechrau gweithredu yn cynrychioli carreg filltir bwysig ym mhrosiect Metro De Cymru. Mae’n rhan o'r buddsoddiad gwerth £800 miliwn y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud mewn trenau newydd sbon ar gyfer Rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
Er mwyn gallu eu cyflwyno, roedd trydaneiddio llinellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert yn hanfodol, fel roedd gwella platfformau'r gorsafoedd i wneud lle ar gyfer y trenau newydd sy’n hirach. Fe wnaethon ni wneud gwelliannau i hygyrchedd ar yr un pryd hefyd.