Skip to main content

Introducing Penalty Fares on the South Wales Mainline

01 Maw 2024

O ddydd Llun 4 Mawrth ymlaen, bydd Taliadau Cosb yn cael eu cyflwyno ar Brif Linell De Cymru fel rhan o ystod o fesurau i fynd i'r afael ag amcangyfrif o £10m o refeniw a gollir pob blwyddyn oherwydd osgoi talu a thwyll.

Bydd cyfnod o dair wythnos o ganllawiau i gwsmeriaid yn dechrau ddydd Llun (4 Mawrth), pan fydd unrhyw un sy'n teithio heb docyn neu drwydded teithio ddilys ar gyfer eu taith yn cael gwybodaeth am y canlyniadau posibl gan Swyddogion Diogelu Refeniw awdurdodedig.

O ddydd Llun 25 Mawrth, bydd unrhyw un sy'n teithio heb docyn neu drwydded teithio ddilys yn gorfod talu Tâl Cosb o £20 neu ddwywaith y pris llawn – pa un bynnag yw'r swm mwyaf.

Bydd yn berthnasol ar gyfer teithiau ar lwybrau rhwng Cyffordd Twnnel Hafren yn Nwyrain Cymru a Chaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC).

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC: “Mae'r mwyafrif helaeth o gwsmeriaid yn talu'r pris cywir ac mae'r refeniw hwn yn hanfodol i ni.  Mae’n ein helpu i barhau i drawsnewid rhwydwaith Cymru a'r Gororau gyda £800m o drenau newydd sbon a parhau i roi’r Metro yn Ne Cymru ar waith.

“Yn anffodus, mae rhai yn dewis peidio â thalu am docyn neu'n defnyddio gweithgaredd twyllodrus i geisio osgoi talu'r swm cywir ar gyfer eu taith.  Nid yn unig mae hyn yn annheg i deithwyr eraill, ond hefyd, mae’n golygu bod TrC yn colli miliynau o bunnoedd mewn refeniw pob blwyddyn.

“Mae TrC yn sefydliad dielw heb unrhyw gyfranddalwyr, a defnyddir yr holl refeniw i ariannu rhedeg y gwasanaethau ac i wneud gwelliannau yn y dyfodol.  Os ydyn ni’n colli arian am fod pobl yn osgoi talu am docynnau a thwyll, gall y cymhorthdal sydd ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru gael ei leihau hefyd, cymhorthdal a ariennir gan y trethdalwr.

“Byddwn yn defnyddio'r cyfnod cychwynnol o dair wythnos i hysbysu cwsmeriaid am y cynllun newydd.  Rydym yn annog pob teithiwr i brynu tocyn cyn teithio un ai ar wefan TrC, ar ein ap arobryn neu drwy brynu tocyn Talu Wrth Fynd, sydd a'r gwerth gorau, pan maent ar gael.”

Dyma ail gynllun Tâl Cosb TrC ar rwydwaith Cymru a'r Gororau yn dilyn lansiad llwyddiannus y cynllun cyntaf a gyflwynwyd ar y gwasanaeth rhwng yr Amwythig a Birmingham.  Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i weddill y rhwydwaith dros y misoedd nesaf.

Gweinyddir y Tâl Cosb gan Swyddogion Diogelu Refeniw awdurdodedig a all wirio tocynnau a rhoi Hysbysiadau Tâl Cosb i deithwyr sydd heb docyn neu drwydded teithio ddilys.  Bydd Swyddogion Diogelu Refeniw pob amser yn gwisgo gwisg gwaith a bydd ganddynt bob amser brawf adnabod ffotograffig.

Gallant hefyd roi Rhybudd Ffi heb ei Thalu (UFN) i deithwyr na allant dalu'r Tâl Gosb yn y fan a'r lle neu sydd wedi cyflawni trosedd fwy difrifol, wedi defnyddio tocyn ffug neu wedi newid y tocyn, er enghraifft.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:   Tâl Cosb | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)