22 Ebr 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi ap fflecsi newydd, a fydd yn symleiddio'r system brisiau, gan sicrhau gwasanaeth cyfleus ac effeithlon o dalu i gwsmeriaid.
Bydd teithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau bws fflecsi nawr yn elwa ar system docynnau haws a chyson. Fel rhan o'r diweddariad hwn, mae prisiau wedi’i alinio ar draws y rhan fwyaf o gynlluniau fflecsi yng Nghymru, gan sefydlu strwythur prisiau unedig sy'n seiliedig ar bellter sy'n cyd-fynd â phrisiau tocynnau TrawsCymru.
Mae'r newid hwn wedi'i gynllunio i gynnig profiad cyfeillgar i gwsmeriaid wrth ddefnyddio'r gwasanaeth bws fflecsi.
Nodweddion allweddol y system brisiau newydd:
Strwythur brisiau unedig: Bellach, mae pob Parth Gogledd Cymru yn dilyn yr un strwythur prisiau sy'n seiliedig ar bellter, gan ei wneud hi'n haws i deithwyr ddeall a rhagweld eu costau teithio (parthau Sir Benfro a Blaenau Gwent i’w unig eithriadau i’r rheol).
Talu ar yr ap: Bellach, gall teithwyr ddefnyddio ap fflecsi i dalu am eu tocynnau, gyda'r gost yn cael ei chyfrifo a'i harddangos ymlaen llaw. Mae'r nodwedd hon ar gael ar draws pob cynllun, gan gynnig opsiwn talu cyfleus a modern.
Tabl prisiau: Mae'r strwythur prisiau newydd yn seiliedig ar brisiau yn ôl pellter (milltiroedd), gyda thocynnau sengl yn cychwyn o £1.50 i oedolion, £1 am blant a bydd ddim mwy na £4 i oedolion a ddim mwy na £2.65 i blant.
Nodwch y mae cardiau teithio rhatach y parhau i fod yn ddilys.
Tocynnau 1bws: Mae tocynnau papur a digidol 1bws a brynwyd un ai ar ap Arriva neu TrawsCymru yn parhau i fod yn ddilys ar y gwasanaethau yng Ngogledd Cymru.
Mae trawsnewid y system i un sy’n seiliedig ar bellter yn newid sylweddol i'r system flaenorol sef un pris ar gyfer pob parth. Er y gall rhai prisiau tocynnau sengl nawr fod yn is, ni fydd tocynnau dychwelyd ar gael mwyach - dim ond tocynnau un ffordd fydd ar gael. Mae hi’n dal yn bosibl i dalu’r gyrrwr a bydd pris y tocyn yn cyfrif tuag at cap tap ymlaen, tap ymadael dyddiol neu wythnosol. Mae'r newid hwn yn sicrhau bod y prisiau yn dryloyw ac yn adlewyrchu'r hyn y mae cwsmeriaid yn ei ddisgwyl wrth brynu eu tocyn ar yr ap.
Mae Sir Benfro wedi cynyddu eu prisiau yn unol â chynnydd yr Awdurdod Lleol.
Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth trafnidiaeth integredig a datblygu rhwydwaith bysiau Trafnidiaeth Cymru:
“Mae gallu ail-lansio holl wasanaethau fflecsi fel rhan o un system unedig yn gyffrous iawn ar ôl lansio’n llwyddiannus eisoes yng Nghonwy ym mis Awst 2024.
“Bydd hyn yn gwneud prisiau’n haws i’w deall a bydd taliadau syml yn cyflymi’r broses i’n cwsmeriaid.
“Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth a'ch adborth wrth i ni barhau i wella ein gwasanaethau.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan - https://trc.cymru/fflecsi
Nodiadau i olygyddion
Dyw cynlluniau fflecsi Blaenau Gwent a Sir Benfro ddim yn codi prisiau yn seiliedig ar bellter ar hyn o bryd. Prisiau cyffredin yn ôl parth sy’n berthnasol.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu dull teithio hyblyg a chyfleus ledled Cymru. Ein nod yw gwella profiad teithio ein teithwyr trwy ddefnyddio technoleg arloesol a chynnig gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Cafodd yr ap fflecsi newydd ei lansio’n llwyddiannus ar ddydd Llun, Ebrill 7, 2025.