28 Hyd 2025
Daeth y tîm yng Ngorsaf Casnewydd ynghyd yr wythnos diwethaf i ddathlu carreg filltir nodedig - pen-blwydd y Swyddog Gweini Cwsmeriaid Albert Bray yn 80 oed.
Dechreuodd Albert, sy'n wreiddiol o Gasnewydd, ei yrfa ar y rheilffordd yn ôl yn 2001, ar ôl gweithio ym meysydd peirianneg ac adeiladu llongau cyn hynny. Ers dros ddau ddegawd, mae Albert wedi bod yn wyneb cyfarwydd i gwsmeriaid ar draws y rhwydwaith.
“Rwy’n caru fy swydd ac, yn syml, rwy’n bwrw ymlaen a dal ati ,” eglurodd Albert.
Ychwanegodd Albert, sydd wedi mwynhau dod i adnabod ei gwsmeriaid rheolaidd dros y blynyddoedd, “Rwy’n credu bod pobl yn fy adnabod yr holl ffordd o Gaerfyrddin i Gaergybi!”
“Rydych chi'n cael boddhad o siarad â chwsmeriaid, cael ymateb, gwneud iddyn nhw wenu. Dyna beth rwy'n hoffi ei wneud a dyna pam rwy'n dal i'w wneud.”
Ychwanegodd Piers Croft, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ar Drenau: “Mae Albert yn enghraifft wych o'r ymroddiad a'r angerdd y mae ein cydweithwyr yn eu dangos wrth wasanaethu ein cwsmeriaid bob dydd. Ers dros 20 mlynedd, mae wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn i wneud eu teithiau’n well.”
“Mae ei gynhesrwydd a’i ymrwymiad wedi’i wneud yn aelod annwyl iawn o dîm Casnewydd ac yn wyneb cyfarwydd ar draws y rhwydwaith. Rydym wrth ein bodd o gael dathlu’r garreg filltir hon gydag ef ac yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd yn gweithio gyda’n gilydd.”
Dathlodd Albert ei ben-blwydd gyda chacen a wnaed yn arbennig gan ei gydweithwyr yn ein cyfleuster arlwyo yng Nghasnewydd.
Heb unrhyw gynlluniau i arafu, mae Albert yn edrych ymlaen at gwpl o flynyddoedd arall yn gwasanaethu cwsmeriaid ar hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru.