Skip to main content

Transport for Wales opportunities for Flybe staff

10 Maw 2020

Mae’r miloedd o staff mae cwymp cwmni awyrennau Flybe wedi effeithio arnynt yn cael eu hannog i edrych ar swyddi gwag gyda Trafnidiaeth Cymru a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Yn dilyn y newyddion bod Flybe wedi mynd i’r wal, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru y  bydd yn cyhoeddi nifer o swyddi yn fuan, gan gynnwys cogyddion a swyddogion gweini cwsmeriaid ar drenau.  

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Rwy’n cydymdeimlo â’r miloedd o gyflogeion gweithgar y mae newyddion Flybe wedi effeithio arnynt. Rwy’n gweithio’n agos gyda fy nghyd-Aelodau Cynulliad a rhanddeiliaid sy’n bartneriaid allweddol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth posib i leihau’r effeithiau cymdeithasol ac economaidd ar y rheini mae hyn wedi effeithio arnynt fwyaf.

“Rwy’n falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi rhannu’r cyfleoedd sydd ar gael i ymuno â theulu TrC ar draws ei lwyfannau cyfathrebu, i ddangos bod galw am staff Flybe a’u sgiliau arbenigol ledled Cymru.”  

Dywedodd Marie Daly, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:

“Roedd yn ddrwg iawn gennym ni glywed y newyddion am Flybe, ac rydyn ni’n cydnabod y bydd rhai pobl fedrus iawn, sydd â phrofiad mewn swyddi sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, yn ddi-waith o ganlyniad i hyn. Byddem yn annog yn gryf bod unrhyw un sy’n chwilio am gyfle newydd yn sgil hyn yn cysylltu â ni i weld pa swyddi fydd ar gael gyda ni yn y dyfodol.

“Mae gennym ni gynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol ar y gweill i drawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth ar gyfer pobl Cymru a’r Gororau, ac rydyn ni am i’r bobl orau bosibl ymuno â ni ar y daith honno.”

Yn ogystal â darparu cyfleoedd cyflogaeth posibl, mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn cefnogi teithwyr a staff Flybe drwy ddarparu teithiau am ddim ar eu gwasanaethau am wythnos, a fydd yn ddilys tan 12 Mawrth.

Cynghorir y teithwyr Flybe mae hyn wedi effeithio arnynt i ddangos cadarnhad o’u harcheb neu eu tocyn awyren Flybe i swyddog archebion Trafnidiaeth Cymru pan fyddant yn archebu eu tocyn trên. Mae amseroedd teithio a rhagor o gyngor ar gael yn trc.cymru.  

Caiff unrhyw rai sy’n chwilio am gyfleoedd gyrfa gyda Trafnidiaeth Cymru neu Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth eu hannog i anfon CV at flybe@tfw.wales a chynnwys disgrifiad o’r swyddi sydd o ddiddordeb iddyn nhw.

Nodiadau i olygyddion


Ar hyn o bryd mae TrC yn recriwtio Cogyddion a Swyddogion Gweini Cwsmeriaid yng Nghaerdydd a Chaergybi. Bydd y bobl hyn yn gweithio ar y gwasanaethau ‘premier’ newydd rhwng gogledd a de Cymru, yn ogystal â gwasanaethau arlwyo eraill ar drenau.

Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC yn recriwtio’n barhaus ar gyfer swyddi newydd cyffrous, gan gynnwys goruchwylwyr a staff gorsafoedd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Llwytho i Lawr