17 Hyd 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cyfleoedd i fusnesau lleol weithio mewn partneriaeth ag Alun Griffiths Cyf. i gyflawni Metro De Cymru.
Bydd digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr i gyflenwyr lleol yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Ffynnon Taf ar 23 Hydref, rhwng 09:00 a 17:00, ar gyfer rhai o’r prif brosiectau wrth ddatblygu’r Metro.
Yn ystod y digwyddiad galw heibio, bydd cyfle i gyflenwyr gwrdd ag aelodau o’r tîm cyflawni, trafod cyfleoedd a chwblhau hyfforddiant gyda Busnes Cymru.
Mae hwn yn gyfle pwysig i gyflenwyr fod yn rhan o’r gwaith gwerth £738 miliwn i drawsnewid Metro De Cymru, sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn cynnwys y depo tram-trenau a chanolfan reoli newydd gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf, yn ogystal ag adeiladu ac uwchraddio’r gorsafoedd Metro. Mae ystod eang o gyfleoedd ar gael, o osod WiFi, teledu cylch cyfyng, lifftiau a larymau tân, i blymio, gosod pyst y seiliau ac adeiladu cyfleusterau toiled.
Bydd y gwaith yn y gorsafoedd yn cael ei wasgaru ar draws y llinellau o Gaerdydd i Dreherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Rhymni a Coryton. Mae TrC a Griffiths yn paratoi’r rheilffordd ar gyfer cerbydau newydd arloesol, gwasanaeth aml ‘cyrraedd a mynd’ ac integreiddio gwell rhwng dulliau eraill o deithio, i greu rhwydwaith trafnidiaeth o’r radd flaenaf y gall pobl De Cymru fod yn falch ohono.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydw i’n hynod falch ein bod ni, mewn partneriaeth ag Alun Griffiths Cyf, yn cynnig y cyfleoedd sylweddol hyn i’r gymuned fusnes leol gyfrannu at adeiladu Metro De Cymru.
“Yn TrC, rydym ni wedi ymrwymo i gaffael yn gynaliadwy ac yn foesegol. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr ein bod ni’n creu cyfleoedd i fentrau bach a chanolig gyfrannu at brosiect sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus De Cymru.
“Rwy'n ffyddiog y bydd yn rhoi hwb sylweddol i ddatblygiad yr economi leol, gan ddangos ein hymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”
Dywedodd Shaun Thompson, Cyfarwyddwr Rheilffyrdd Alun Griffiths Cyf:
“Fel cwmni peirianneg sifil yng Nghymru, rydym ni’n falch o weithio gyda TrC a bod yn rhan o’r prosiectau pwysig hyn. Bydd y ddau ohonynt yn arwain at fudd economaidd sylweddol yn lleol, ac yn creu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a’r rhai sy’n chwilio am waith yn Ne Cymru.”
Nodiadau i olygyddion
Mae’r cyfleoedd yn cynnwys:
Gosod rhwystrau
Darpariaeth ar gyfer beiciau
Gwaith brics – cladin ar wyneb mewnol Unedau-L yn Ffynnon Taf
Uniadau pont
Amlen adeilad
CCTV
Torri concrid
Arbenigwyr llawr concrid
Gwaith craen
Cyflenwyr craeniau (ffordd a rheilffordd)
Drilio diemwnt
Diogelwch/gosodion a ffitiadau drysau/ffenestri
Cladin allanol
Ffensio
System larwm tân
Gorchuddion llawr
Ffurfwaith
Diffodd tân â nwy
Cynnal daear
Tirlunio caled a meddal
Gwresogi ac awyru
Gosod cyrbau
Lifftiau
Mecanyddol a thrydanol/goleuo/DNO (pŵer i’r orsaf)
Gwaith dur sylweddol – pontydd troed/rampiau/adeileddau cynnal/pentyrrau haenau
Cyflenwi a gosod systemau mecanyddol a thrydanol
Paentio ac addurno
Parwydydd/waliau stydiau
PID – systemau gwybodaeth i deithwyr
Pyst
Gwaith platiwr/haen sgim
Systemau platfform/deunyddiau (ar gyfer hunan-osod)
Plymwaith
Concrid wedi’i rag-gastio – Unedau-L (o bosib y ddwy ochr) a thrawstiau pont (Gelynis)
Systemau sain
Sgaffaldau
Cyflenwi a gosod paneli solar
Gosod gwaith dur
Cynhyrchu/adeiladu gwaith dur
Goleuadau stryd
Lloriau crog
Toiledau (modwlar)
Rheoli traffig
Bolardiau cerbydau
Cysgodfannau/ystafelloedd aros/dodrefn/biniau
Wynebau gwrth-ddŵr
Marcio llinellau gwyn
Wifi