12 Hyd 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), ar y cyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn mynd ati i ymgysylltu â'r cyhoedd ar gynigion i ymestyn y gwasanaeth trên i deithwyr i'r gogledd o Aberdâr i Hirwaun.
Mae'r cynllun yn rhan o gamau ehangu Metro De Cymru yn y dyfodol, fel yr amlinellir yng ngweledigaeth TrC ar gyfer rheilffyrdd ledled Cymru a'r Gororau - Ymlaen, Gyda’n Gilydd: Gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau
Gallai'r cynnig i ymestyn y lein olygu ailgyflwyno gwasanaethau i deithwyr ar hyd y coridor rheilffordd presennol sydd ddim ar waith ar hyn o bryd, rhwng Aberdâr a Hirwaun. Pe bai'n cael ei ddatblygu, byddai'r prosiect yn gwella cysylltedd ar draws Cwm Cynon Uchaf ac ymlaen i Bontypridd a Chaerdydd.
Cynhelir y sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd rhwng 12 Hydref a 22 Tachwedd 2026. Bydd y sesiynau yn gyfle i drigolion, busnesau a rhanddeiliaid lleol helpu i lunio dyfodol trafnidiaeth yn yr ardal.
Er mai dim ond megis dechrau mae'r trafodaethau hyn, mae astudiaethau cychwynnol eisoes wedi'u cynnal fel rhan o raglen Metro De Cymru.
Dyma rai o'r cynigion sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd:
- Ymestyn gwasanaethau trenau i deithwyr y tu hwnt i Aberdâr i Hirwaun.
- Adeiladu gorsaf drenau newydd yn Llwydcoed a Hirwaun.
- Gwella’r rhwydwaith cerdded, olwynio a beicio lleol.
- Gwella’r cysylltiad gyda gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus eraill.
Nod y cynllun yw gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal, gan greu gwell mynediad at swyddi, gofal iechyd ac addysg, ac ar yr un pryd, cefnogi dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.
Mae TrC yn annog pawb sydd â diddordeb yn y prosiect i ddweud eu dweud a helpu i roi siâp ar gam nesaf y datblygiad.
Bydd yr adborth a gesglir yn sgil y sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth lywio gwaith dylunio a datblygu achosion busnes yn y dyfodol, gan sicrhau bod cymunedau lleol yn parhau i fod wrth wraidd cynigion wrth iddynt esblygu.
Dywedodd Rob Jones, Rheolwr Rhaglen Datblygu Strategol TrC: "Mae'r cyfle hwn i ymgysylltu â'r cyhoedd yn gyfle pwysig i gymunedau lleol helpu i roi eu barn ar gynigion sydd â'r potensial i drawsnewid cysylltedd ar draws Cwm Cynon Uchaf.
“Gall gwella mynediad at swyddi, addysg a gofal iechyd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac rydym am sicrhau bod gwybodaeth leol a blaenoriaethau lleol yn helpu i roi siap i gam nesaf y datblygiad.
"P'un a ydych yn cefnogi'r cynigion, mae gennych gwestiwn neu bryder neu am rannu eich barn, ry'n ni'n annog pawb i gymryd rhan a dweud eu dweud.
Gall y cyhoedd ddarllen mwy am y cynigion a chymryd rhan yn yr ymgysylltiad hwn trwy glicio ar y ddolen hon: Aberdâr i Hirwaun | Trafnidiaeth Cymru