08 Chw 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi penodi Lee Robinson yn Gyfarwyddwr Datblygu ar gyfer Gogledd Cymru, swydd allweddol o ran gweddnewid cludiant ar draws y wlad.
Wedi’i leoli yn Wrecsam, mae Lee Robinson yn ymuno â Trafnidiaeth Cymru gan ddod â chyfoeth o brofiad gydag ef, wedi iddo dreulio naw mlynedd fel Cyfarwyddwr Lle a’r Economi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Wedi gweithio’n agos ar ddatblygu’r rhwydwaith trafnidiaeth rhanbarthol yng Ngogledd Cymru, mae bellach yn gyffrous ynghylch y posibilrwydd o fuddsoddi a gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth presennol.
Mae Trafnidiaeth Cymru ar ddechrau taith hynod gyffrous i weddnewid y sector trafnidiaeth ledled Cymru drwy yrru gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran rhwydwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel sy’n ddiogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch.
Fel rhan o ddatblygiad Metro Gogledd Cymru, y rhanbarth fydd y cyntaf i fanteisio ar ddyfodiad trenau wedi’u hadnewyddu’n llwyr yn ddiweddarach eleni. Yn ogystal â hyn bydd Gogledd Cymru’n derbyn trenau newydd fel rhan o fuddsoddiad o £800 miliwn erbyn 2023.
Wrth drafod ei swydd newydd, meddai Lee Robinson:
“Dros y pymtheng mlynedd nesaf byddwn yn gweld dros £5 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn y sector trafnidiaeth ledled Cymru. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar ein heconomïau a’n cymunedau lleol, ac mae’n wych bod yn rhan o sefydliad mor newydd gyda gweledigaeth holistig ar gyfer Cymru.
“Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy mhrofiad eang i ddatblygu perthnasoedd gwaith da ledled Gogledd Cymru ac ar draws y ffin. Mae trafnidiaeth yn hanfodol ar gyfer llesiant cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac rwy’n gyffrous i ddechrau symud ymlaen â gwelliannau yn y rhanbarth.
Fel rhywun sy’n frwdfrydig iawn am y rhanbarth a’i gymunedau, rwyf wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan y datblygiadau sydd ar fin digwydd, er enghraifft cyflwyno gwasanaethau newydd rhwng Caer a Lerpwl y gwanwyn hwn. Bydd y newidiadau cadarnhaol hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ddatblygiad economaidd yr ardal.”
Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi penodi Lee Robinson yn Gyfarwyddwr Datblygu ar gyfer Gogledd Cymru. Daw Lee â chyfoeth o brofiad a sgiliau gydag ef a fydd yn hanfodol ar gyfer ein gwaith i'r dyfodol. Yn Trafnidiaeth Cymru rydym ar ddechrau taith gyffrous i greu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Gogledd Cymru fod yn falch ohono. Dros y blynyddoedd i ddod bydd pobl yn gweld ac yn cael budd o wahanol welliannau i drafnidiaeth, wrth i ni gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro Gogledd Cymru.
Yn ogystal â datblygu’r rhwydwaith trafnidiaeth, byddwn yn cael effaith economaidd ehangach drwy greu dros 600 o swyddi newydd a 30 o brentisiaethau bob blwyddyn. Gyda buddsoddiad o dros £5 biliwn, bydd llawer o gyfleoedd i fusnesau lleol yng Ngogledd Cymru gydweithio â ni.”
Dywedodd y Gweinidog dros Drafnidiaeth a Gweinidog y Gogledd Ken Skates:
“O’r cychwyn cyntaf, rydw i wedi ymroi i sefydlu uned fusnes Trafnidiaeth Cymru yng Ngogledd Cymru i gynorthwyo i ddarparu’r fasnachfraint newydd ac rwyf wrth fy modd fod Lee Robinson wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Datblygu Gogledd Cymru i arwain yr uned.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi’n llwyr i weld newid sylweddol yn seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru a bydd Lee yn awr yn symud ymlaen â datblygu cynlluniau cyffrous gan gynnwys gorsaf integredig yn Shotton a gorsaf newydd yn Deeside Parkway.
“Bydd rôl y Cyfarwyddwr hefyd yn bwysig o ran cefnogi cynigion ar gyfer hwb trafnidiaeth integredig Wrecsam Cyffredinol, sy’n cael ei yrru ymlaen fel rhan o astudiaeth ehangach datblygi coridor Ffordd yr Wyddgrug Wrecsam. Mae hyn yn ychwanegol i’r £10m yr ydym wedi ei ymrwymo i wella seilwaith rheilffyrdd yn ardal Wrecsam a galluogi mwy o drenau i deithio drwy Wrecsam a’r ardal gyfagos.
“Mae gan Lee gefndir cadarn o weithio yng Ngogledd Cymru a bydd yn allweddol o ran ffurfio partneriaethau gwaith cydweithredol ledled y rhanbarth. Rwy’n dymuno’n dda iddo yn ei swydd a gwn y bydd ei sgiliau a’i brofiad o fudd mawr o ran gyrru gwelliannau trafnidiaeth ymlaen yng Ngogledd Cymru.”
Nodiadau i olygyddion
Trenau
Trenau o fath metro yn cael eu cyflwyno ar lwybrau yng Ngogledd Cymru a’r Gororau [Dyffryn Conwy, Wrecsam-Bidston, Crewe-Caer] yng ngwanwyn 2019.
Cerbydau wedi’u hadnewyddu ar gyfer gwasanaethau rhwng Gogledd a De Cymru erbyn diwedd 2019.
Bydd y trenau hyn yn darparu mwy o le a gwell profiad i gwsmeriaid gan gynnwys socedi plygiau, gwybodaeth electronig i deithwyr a mwy o hygyrchedd.
Bydd trenau diesel newydd sbon yn cael eu cyflwyno ar lwybrau ar draws Gogledd Cymru o 2022, a byddant yn cael eu hadeiladu yma yng Nghymru.
Metro Gogledd Cymru
Darparu cam cyntaf Metro Gogledd Cymru drwy gynyddu amlder trenau ar linell Wrecsam-Bidston i ddwy drên yr awr o Ragfyr 2021, gyda threnau Metro wedi’u hailadeiladu’n cyrraedd yng ngwanwyn 2019.
Gwasanaethau
Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Llandudno a Lerpwl o fis Rhagfyr 2022 yn ogystal â gwasanaethau uniongyrchol rhwng Maes Awyr Manceinion a Bangor.
Prisiau
Yn ystod cyfnod ein contract, byddwn yn gostwng prisiau tocynnau a gaiff eu prynu ar y diwrnod a thocynnau tymor 10% i annog pobl i deithio i, o ac yng Ngogledd Cymru
Gorsafoedd
Buddsoddi'n sylweddol i wella gorsafoedd ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau yn Shotton a Wrecsam Cyffredinol er mwyn darparu cyfnewidfeydd Metro Gogledd Cymru, ac adeilad gorsaf newydd ym Mlaenau Ffestiniog.
Y Gymuned
Cyflwyno Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol newydd ar Linell Arfordir Gogledd Cymru. Cynorthwyir yr uchod drwy recriwtio Rheolwr Rhanddeiliaid a’r Gymuned, a Llysgenhadon Cwsmeriaid a’r Gymuned.