Skip to main content

Customers set to reap the benefits of Transport for Wales' £40 million fleet investment

16 Gor 2019

O’r wythnos hon ymlaen, bydd cwsmeriaid yn cael dechrau mwynhau manteision fel mannau gwefru ac USB, gwell seddi a thoiledau newydd sbon ar y trenau fel rhan o fuddsoddiad anferth gan Trafnidiaeth Cymru mewn trenau pellter hir.

Cychwynnodd y trên Dosbarth 175 cyntaf ar ei newydd wedd oddi ar y llinell gynhyrchu yn depo Alstom, Swydd Gaer yr wythnos hon, ac mae teithwyr eisoes yn mwynhau'r manteision ar deithiau pellter hir.

Yn ogystal â socedi ar gyfer plygiau a socedi USB, bydd cwsmeriaid yn gallu eistedd ar seddi sydd newydd gael eu gorchuddio a bydd carped newydd o dan eu traed hefyd.  Bydd gosodiadau mewnol newydd ar gael hefyd, fel gorchuddion byrddau, a bydd y tu allan i'r trenau’n cael eu ailfrandio yn lliwiau TrC.

Bydd y buddsoddiad yn cael ei wneud ym mhob un o’r 27 trên yn y fflyd Dosbarth 175, a bydd yr un peth yn digwydd ar drenau dosbarth eraill Trafnidiaeth Cymru hefyd.  

175Interior2

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC: “Mae’n wych gallu cyflawni’r gwelliannau hyn i gwsmeriaid - gwelliannau maen nhw’n disgwyl eu gweld ar rwydwaith rheilffyrdd modern.

“Rydyn ni’n gwybod bod gallu teithio’n gysurus a gallu gwefru dyfeisiau yn bwysig iawn i’n cwsmeriaid, boed nhw’n teithio am ugain munud yn unig neu am bedair awr, ar fusnes neu ar gyfer pleser. 

“Rydyn ni’n buddsoddi dros £800 miliwn mewn trenau newydd sbon, ond maen nhw’n cymryd amser i'w hadeiladu, ac rydyn ni am i’n cwsmeriaid gael profiadau braf nawr.

“Felly mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn gam mawr arall tuag at adeiladu gwell rheilffordd ar gyfer y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r buddsoddiad yn y trenau Dosbarth 175 yn dod i gyfanswm o £6.7 miliwn ac mae wedi’i drefnu i gael ei wneud drwy gydol 2020. Bydd gweddill y £40 miliwn yn cael ei wario ar weddill fflyd TrC yn ystod y misoedd nesaf.

 

Interior Shot