Skip to main content

Adam Street Bridge work completed and reopened

01 Meh 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ailagor Pont Adam Street i wasanaethau teithwyr yn dilyn cwblhau rhaglen waith gwerth £4.3m i adfer ac atgyweirio'r bont 130 oed.

Mae'r rhan o'r bont a oedd yn cludo'r llinell uniongyrchol o orsaf Heol y Frenhines i Fae Caerdydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth 202. Roedd angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol iddo oherwydd difrod cyrydol.  Arweiniodd y difrod at gyfyngiadau ar gapasiti’r bont i gludo llwythi a chyfyngu ar gyflymder gwasanaethau trên.

Dywedodd Phil Rawlings, Pennaeth Rheoli Asedau TrC: "Rydym yn falch o fod wedi cwblhau cam cyntaf o’r gwaith o atgyweirio Pont Adam Street yn llwyddiannus.  Bydd hyn yn caniatáu i wasanaethau teithwyr hanfodol drwy'r ddinas redeg unwaith yn rhagor.

"Mae gwaith atgyweirio pellach i ganiatáu i draffig cludo nwyddau ddefnyddio'r bont hefyd yn mynd rhagddo'n dda a bydd wedi'i gwblhau dros yr wythnosau nesaf.

"Hoffwn ddiolch i'r holl dimau sy'n gysylltiedig â Seilwaith Amey Cymru (AIW) a Centregreat am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf i gyflawni'r prosiect mor llwyddiannus".

Roedd Pont hanesyddol Adam Street yn gyfuniad o waith adeiladu cymhleth oedd yn wreiddiol yn cael ei ddal at ei gilydd gyda rhybedion.  Roedd hyn yn ychwanegu at gymhlethdod y gwaith atgyweirio angenrheidiol, gan fod gan bontydd modern adrannau penodol sydd wedi'u bolltio gyda'i gilydd.

Cyflwynwyd y rhaglen waith gwreiddiol ym mis Medi 2020 a pharhaodd y gwaith trwy gydol 2021, gan gynnwys gwaith cryfhau trawstiau yn ogystal ag adnewyddu trawstiau a gosod rhai newydd, disodli dec y bont yn llwyr gyda dur, gwneud gwaith dur newydd ategol, gwaith dal dŵr a gorffennu’r gwaith.

Gan fod sŵn yn sgil y gwaith yn her oherwydd natur y gwaith, rhoddodd Trafnidiaeth Cymru a'i bartneriaid fesurau lliniaru ar waith gan gynnwys gweithio yn ystod y nos er mwyn lleihau unrhyw anghyfleustra.

Cwblhawyd hyn i gyd gan ganiatáu i'r trac gael ei adfer yn barod ar gyfer gwasanaethau teithwyr ddechrau mis Mai.