26 Meh 2019
Roedd Trafnidiaeth Cymru yn falch iawn o groesawu hen wyneb cyfarwydd yn ôl i’w rwydwaith yr wythnos diwethaf, pan ail-gyflwynwyd trên Dosbarth 37 wedi’i dynnu gan locomotif.
Mae’r trên Dosbarth 37 a ddefnyddiwyd ddiwethaf ar y rhwydwaith yn 2005, wedi cael ei gyflwyno i ddarparu mwy o gapasiti ar Reilffordd Cwm Rhymni, tra bo Trafnidiaeth Cymru yn aros i’w drenau ychwanegol gyrraedd.
Dechreuodd y cyntaf wasanaethu yr wythnos diwethaf gan redeg yn ystod cyfnodau prysur y bore a fin nos, a bydd ail drên yn dilyn yn fuan.
Ymhlith y cyntaf i yrru’r trên roedd y gŵr a yrrodd y trên olaf un i wasanaethu yn ôl yn 2005.
Dysgodd David “Dai” Beavan, sydd bellach yn 64 oed, ei grefft ar drenau Dosbarth 37 a Dosbarth 150 pan ymunodd â’r rheilffyrdd yn yr 1990au.
“Doeddwn i byth yn disgwyl eu gweld nhw nôl, ond mae’n wych,” meddai David.
“Fe yrrais i’r un olaf un i lawr o Rymni yn 2005 ac roedd gennym ni dorch ar flaen y trên. Daeth llawer o wylwyr trenau i lawr i’w weld - roedd yn dipyn o achlysur. Roeddwn i’n gobeithio gyrru’r un cyntaf i lawr y lein eto ond o leiaf cefais gyfle i fod y cyntaf i’w yrru yn ôl i Rymni!
“Mae’n bleser eu gyrru nhw ac mae’r un sydd gennym ni nawr fel newydd.
“Doedd dim byd gwaeth na throi pobl i ffwrdd yn yr orsaf am nad oedd digon o le, felly mae’n braf ein bod ni’n gallu cynnig lle i bobl. Mae pawb yn gwenu yn y bore ac mae pobl fel pe baent yn siarad â’i gilydd yn fwy, yn tynnu lluniau ac yn diolch i’r gyrrwr.
“Mae nifer y bobl â diddordeb sydd wedi dod i lawr i’w weld yn anghredadwy; roedd gennym ni 35 i 40 o bobl ar y trên i fyny i Rymni y diwrnod o’r blaen. Fe hoffwn i eu gweld nhw’n rhedeg ar ôl mis Rhagfyr neu fis Ionawr ond pwy a ŵyr?”
Mae cymudwyr sy’n defnyddio'r gwasanaeth wedi ymateb yn bositif ac wedi bod yn rhannu eu sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddweud iddynt gael “reid cyfforddus iawn y bore yma!” a “dwi wir wedi mwynhau cymudo ar y trên hen-ffasiwn yma”.
Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Roedden ni wedi addo cynyddu capasiti ar Reilffordd Cwm Rhymni yn ein newidiadau i amserlen mis Mai, a hyd yn hyn, rydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny ar gyfer 98% o’r gwasanaethau. Bydd capasiti’n cynyddu mwy byth yn sgil cyflwyno’r trenau Dosbarth 37.
“Mae’n wych ein bod ni wedi denu pobl sydd â diddordeb mewn rheilffyrdd o bob cwr o Gymru a’r DU hefyd, i weld a defnyddio’r trên ac i gael effaith gadarnhaol ar ein heconomi twristiaeth.
“Wrth i ni ddatblygu a dechrau cyflwyno trenau modern newydd sbon, gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael eu hysbrydoli ac yn parhau i ymweld â Chymru a rhannu ein taith gyffrous”.