16 Tach 2022
Fe wnaeth Côr Meibion Tonna synnu’r rhai oedd yn teithio ar y trên heddiw drwy ganu Anthem Genedlaethol Cymru ar rhai o lwybrau yng Nghymru i gefnogi Tîm Pêl-droed Cymru.
Neidiodd dros 20 o aelodau’r côr, llawer ohonynt yn ddigon hen i gofio a dwyn i gof Cwpan y Byd diwethaf i Gymru fod yn rhan ohono, (roedd rhai hyd yn oed yn honni eu bod wedi chwarae!), ar y trên yn eu gorsaf leol yng Nghastell-nedd. Yna buont yn teithio ar y trên ac yn canu perfformiad o’r Anthem Genedlaethol i deithwyr mewn ‘côr fflach’.
Gyda phêl-droed ac angerdd gwladgarol fe wnaethon nhw godi calon teithwyr a helpu i ledaenu ysbryd Cwpan y Byd sy'n dechrau cyffroi’r wlad.
Yn dilyn bloeddio Hen Wlad Fy Nhadau ar un neu ddau o lwybrau y rheilffordd, daeth y daith i ben gyda perfformiad cofiadwy yng Ngorsaf Abertawe gyda phawb oedd yno yn ymuno yn y dathlu.
Dywedodd John Humphreys, Cadeirydd Côr Meibion Tonna: “Rydyn ni wrth ein bodd yn canu ac rydyn ni wedi canu ar draws y byd. Rydyn ni wedi bod allan ar y trenau, yn canu rhywfaint ac yn rhoi gwen ar wynebau pobl.
“Rwy’n cofio Cwpan y Byd diwethaf, roeddwn i’n bedair ar ddeg oed ac fe wnes i ei wylio gyda fy nhad ar y teledu. Chwaraeodd John Charles a sgoriodd, ond yna cafodd ei anafu a ni chwaraeodd yn y chwarteri.
“Cawsom amser gwych bryd hynny, ond y tro hwn rydym yn mynd i fynd yr holl ffordd.”
Ychwanegodd James Williams, Pennaeth Cyfryngau TrC: “Rydyn ni wedi cael bore gwych gyda Chôr Meibion Tonna ar ein rhwydwaith, maen nhw wedi rhoi gwen ar wynebau pobl ac wedi dathlu dechrau Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 mlynedd gyda hiwmor a chân Gymreig unigryw.
“Roedd llawer o’r côr yn cofio straeon o’r twrnament ym 1958 a heddiw maent yn lledaenu’r ‘ysbryd o 58’ hwnnw i’r ‘genhedlaeth o 22’. Pob lwc i dîm Cymru, rydyn ni i gyd y tu ôl i chi.”