Skip to main content

Transport for Wales contract awarded to Social Enterprise helping people back to work

07 Mai 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dyfarnu contract i ELITE Paper Solutions, menter gymdeithasol sy’n helpu pobl ag anableddau i gael gwaith.

Wedi’i leoli ym Merthyr, mae ELITE Paper Solutions wedi’i benodi i storio a sicrhau dogfennau wedi’u harchifo a chontractau ar ran Trafnidiaeth Cymru. Mae’r fentr gymdeithasol wedi bod yn helpu pobl ag anableddau i ennill a chadw gwaith cyflogedig yn eu cymunedau er 1994.

Dywedodd Joshua O’Leary, un o weithwyr ELITE Paper Solutions:

“Rhoddodd ELITE Paper Solutions gyfle i mi i ddatblygu fy hyder a’m sgiliau er mwyn imi allu cael gwaith yn y dyfodol. Mae'r fenter gymdeithasol hefyd yn darparu amgylchedd dysgu diogel ac yn helpu pobl i oresgyn eu hanawsterau, fel eu bod yn teimlo’n hyderus yn y gweithle.

“Mae’n wych fod Trafnidiaeth Cymru wedi dyfarnu’r contract hwn gan ei fod yn helpu'r gymuned ac yn dod â budd i bobl leol.”

Ymwelodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, ag ELITE Paper Solutions a chafodd gyfle i ddysgu mwy am sut mae’r fenter gymdeithasol yn gweithio ac i gwrdd â'r staff sy’n gweithio yno.

Dywedodd:

“Mae ymweld ag ELITE Paper Solutions wedi bod yn ysbrydoliaeth. Mae’r staff yma yn gweithio’n galed i greu amgylchedd lle gall pobl o bob cefndir, sy’n wynebu anawsterau, ddysgu sgiliau, magu hyder a chael gwaith.

“Mae’r proffesiynoldeb a’r gefnogaeth a ddangosir yma yn profi bod modd caffael mewn ffordd sy’n sicrhau canlyniadau go-iawn i’r bobl yn y rhanbarth hwn, yn unol â'r addewidion a wnaed yn ein cynllun Swyddi Gwell yn Nes Adref.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol ac yn darparu cyfleoedd i gymunedau lleol elwa o’r rhaglen fuddsoddi. Mae’n gyfnod o drawsnewid i drafnidiaeth yng Nghymru ac mae pobl a chymunedau yn rhan bwysig o’r broses.”



Mae Trafnidiaeth Cymru newydd gychwyn ar siwrnai gyffrous iawn a fydd yn gweld dros £5 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn rhwydwaith trafnidiaeth Cymru. Mae’r cwmni dielw, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn gwbl gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae’n deall y rôl sylfaenol y mae trafnidiaeth yn ei chwarae yn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Hoffwn longyfarch ELITE Paper Solutions ar ei lwyddiant ac mae Trafnidiaeth Cymru, fel sefydliad, yn teimlo’n gyffrous ynglŷn â gweithio gyda’r fenter. Rydym yn buddsoddi £5 miliwn yn y sector trafnidiaeth a bydd llawer o gyfleoedd i fusnesau a mentrau cymdeithasol lleol i weithio gyda ni.

“Yn ogystal â gwella’r rhwydwaith a'r gwasanaethau trafnidiaeth, rydym eisiau defnyddio ein buddsoddiad i gael effaith bositif ar economïau a chymunedau lleol ledled Cymru. Mae contractau fel hwn yn dangos sut mae modd cyflawni hyn. Mae dyfarnu’r contract hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu Cymru sy’n fwy cyfartal, gan alluogi pobl i gyrraedd eu potensial dim ots beth yw eu cefndir neu’u hamgylchiadau, fel yr amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).”

Dywedodd Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol ELITE Paper Solutions Enterprise :

“Rydym yn hynod falch fod y contract hwn wedi cael ei ddyfarnu inni ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Trafnidiaeth Cymru. Fel menter gymdeithasol mae ein gwaith yn golygu grymuso cymunedau lleol a darparu hyfforddiant i bobl ag anableddau a’r rhai sydd o dan anfantais.

“Mae’n wych bod yn rhan o’r prosiect enfawr hwn ac elwa o’r buddsoddiad.”