Skip to main content

27 Gor 2023

Bydd mis Awst eleni yn nodi 175 mlynedd ers i ddrysau gorsaf Gaer agor am y tro cyntaf, ac mae nifer o weithgareddau wedi’u trefnu i gofio am brif beiriannydd yr orsaf, sef Thomas Brassey.

Bydd y prif ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar 1 Awst, ac mae’r rhain wedi’u trefnu gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig gyda chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yn rheoli Gorsaf Caer ac Avanti West Coast.

Bydd y dathliadau hefyd yn cynnwys y rheilffordd o Gaer i Amwythig, a’r rheilffordd o Gaer i Gaergybi, a gafodd eu hadeiladu yn yr un cyfnod â’r orsaf yn 1848.

Yn y Queen Hotel gyferbyn â’r orsaf, bydd y cynhyrchydd recordiau, Pete Waterman, dan arweiniad Cymdeithas Thomas Brassey, yn trafod hanes yr orsaf a rhestr hirfaith o bethau a gyflawnwyd gan Brassey. Bydd y drafodaeth gyntaf yn cael ei chynnal am 11am, a’r ail am 6pm. Bydd Gorsaf y Waun hefyd yn cynnal diwrnod gwisg ffansi Fictorianaidd a dawns te ar 9 Awst yn neuadd y dref.

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol TrC, ei bod yn syniad gwych dod â phawb at ei gilydd i nodi hanes rheilffyrdd y ddinas.

Dywedodd: “Mae gorsaf Caer yn adeilad go arbennig, ac mae’n gyfrifol am gysylltu cynifer o gymunedau yng Nghymru a Lloegr.

“Mae’r ffaith bod yr orsaf yn gweithredu ers 175 mlynedd yn hollol wych, ac mae’n deyrnged i’w chynllunydd, Thomas Brassey, a’r holl weithwyr a’r peirianwyr a fu’n rhan o’r gwaith o’i hadeiladu.

“Mae rhannu ein hanes â chenedlaethau newydd yn rhywbeth hanfodol, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn helpu i ysbrydoli eraill i ddilyn esiampl Brassey, wrth i ni weithio gyda chymunedau er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw gysylltiadau gwell â’u rheilffyrdd.”

Mae gorsaf Caer, a agorwyd ar 1 Awst 1848, yn ganolfan rheilffordd allweddol sy’n cysylltu gogledd Cymru â gogledd orllewin Lloegr.

Cafodd ei hadeiladu gan Thomas Brassey yn ystod diwedd y “railway mania” a oedd wedi cydio ym Mhrydain y degawd hwnnw.

Wedi’i eni ar gyrion y ddinas, roedd Brassey hefyd yn un o’r prif beirianwyr ar y rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi, a’r rheilffordd rhwng Amwythig a Chaer.

Bu’n hyfforddi dan arweiniad Thomas Telford, ac yn fuan wedi hynny fe aeth ymlaen i adeiladu rheilffyrdd ym mhob cwr o’r byd, gan gynnwys rheilffordd 540 milltir o hyd, sef y “Grand Trunk” yng Nghanada; a oedd yn cynnwys Pont Victoria, sef y bont fwyaf yn y byd bryd hynny.  

Os nad oedd hynny’n ddigon, fe aeth ati hefyd i adeiladu systemau doc, ffatrïoedd locomotif, systemau carthffosiaeth, pontydd anhygoel, a thraphontydd enfawr. 

Roedd yn ddyn diymhongar a gwrthododd anrhydeddau ym Mhrydain, ond fe gafodd ei anrhydeddu gan wledydd eraill, gan dderbyn rhai o’r medalau pwysicaf oedd ganddyn nhw i’w cynnig. Roedd hefyd yn gyflogwr rhagorol, ac roedd ganddo hyd at 80,000 o weithwyr ar un adeg. Mynnodd bod ei weithwyr yn cael tâl a chyfleusterau priodol am eu gwaith, ac fel rhan o’r “Canada Works” yn Birkenhead fe aeth ati i adeiladu llyfrgell – 30 mlynedd cyn i’r llyfrgell gyhoeddus gyntaf gael ei sefydlu.

Erbyn diwedd y 1840au, roedd wedi bod yn gyfrifol am adeiladu tua thraean o holl reilffyrdd Prydain a thri chwarter o’r rheilffyrdd yn Ffrainc. Oherwydd ei enw da, enillodd gontractau adeiladu rheilffyrdd mewn gwledydd fel Sbaen, Awstralia, Norwy a’r Crimea.

Mae Cymdeithas Thomas Brassey yn gweithio’n ddiflino i hyrwyddo ei lwyddiannau, ac ar hyn o bryn maen nhw’n codi arian er mwyn codi cerflun yng ngorsaf Caer.

Dywedodd Stephen Langtree MBE, Cadeirydd Cymdeithas Thomas Brassey:  “Bydd 1 Awst 2023 yn ddiwrnod cofiadwy i Gaer. Bydd yn gyfle i ni ddathlu agoriad yr orsaf a adeiladwyd gan Thomas Brassey a oedd, erbyn hynny, wedi adeiladu rheilffyrdd ledled y byd. 

“Gan weithio gyda Francis Thompson, y pensaer, a Robert Stephenson, y peiriannydd, fe gododd Thomas Brassey adeilad Eidalaidd gwych a oedd, ar y pryd, yn cynnwys y platfformau hiraf yn y wlad.”

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig yn dod â gweithgareddau rheilffyrdd ynghyd ar draws Caer, Crewe ac Amythig.