19 Rhag 2024
Mae golden retriever o’r enw Jamie wedi dod yn aelod newydd (ac ella mwyaf poblogaidd) o dîm Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Mae’r ci tywys, sy’n mynd gyda’i berchennog Ryan Moreland, Rheolwr Prosiect Cynorthwyol sy’n gweithio mewn tîm sy’n darparu strydoedd mwy diogel ar gyfer cerdded, olwynio a beicio, wedi cael tocyn staff TrC.
Mae Jamie yn ymuno â Ryan deirgwaith yr wythnos ym mhencadlys TrC ym Mhontypridd. Mae Ryan, sydd â nam ar ei olwg, yn gobeithio dod â’i brofiad personol unigryw fel teithiwr anabl i’w rôl newydd gyda TrC.
Ychwanegodd: “Rwy’n edrych mlaen am fod yn rhan o’r ateb, nid y broblem.”
"Yn union fel Chris McCausland ar Strictly Come Dancing, mae Jamie a TrC wedi dangos i mi fod unrhyw beth yn bosibl pan fod gennych 'y gefnogaeth gywir a'r dygnwch sydd ei angen"
Pan ymgeisiodd Ryan am y swydd, hwn oedd ei gyfweliad swydd cyntaf erioed gyda chi tywys wrth ei ochr. Roedd yn brofiad cadarnhaol, a llwyddodd i gael y swydd ar ei rinweddau ei hun.
Dywedodd Geoff Ogden, Prif Swyddog Cynllunio a Datblygu Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru:
“Mae Ryan a Jamie ill dau yn ymgartrefu’n dda ac fel cwmni fe wnaethom addasiadau rhesymol bach i ddarparu ar gyfer eu hanghenion penodol.
“Trwy wneud yr addasiadau bach hyn, gallwn wneud gwahaniaeth mawr, ac rydym yn gobeithio gosod esiampl i eraill a hyrwyddo amgylchedd cynhwysol TrC.”
Dywedodd Andrea Gordon, Pennaeth Materion Allanol Cŵn Tywys Cymru:
“Mae’n wych clywed bod TrC yn gwneud i Ryan a Jamie deimlo’n gartrefol yn y gwaith.
“Mae’n ofynnol i gyflogwr wneud addasiadau rhesymol i alluogi gweithiwr anabl sydd â chi cymorth i fynychu ei weithle a chyflawni ei swydd.
“Mae cŵn fel Jamie wedi’u hyfforddi’n dda ac yn gyfarwydd â bod o gwmpas pobl yn y sefyllfaoedd hyn, felly rwy’n gobeithio y bydd yn dod â gwên i’w hwynebau pan fydd yn eu croesawu i’r gwaith.”
Mae cydweithiwr Ryan, Katie Williams, wedi lansio ymgyrch codi arian ar gyfer Cŵn Tywys drwy Rwydwaith Young Rail Professionals Cymru. Mewn ychydig fisoedd yn unig, mae hi wedi llwyddo i godi £700 ar gyfer yr apêl 'Enwi Ci Bach', gyda'r nod o enwi ci bach yn 'Isambark Brunel' er anrhydedd i'r peiriannydd sifil enwog. Bydd y rhodd hael yma o gymorth mawr i Gŵn Tywys yn eu cenhadaeth hollbwysig i hyfforddi cŵn tywys sy’n newid bywydau.