Skip to main content

Celtic Travel to operate TrawsCymru T4 service

27 Meh 2025

Mae cwmni bysiau Celtic Travel o Ganolbarth Cymru wedi ennill contract i ddarparu gwasanaeth TrawsCymru T4 rhwng Merthyr Tudful a'r Drenewydd o fis Medi ymlaen.

Mae'r llwybr poblogaidd wedi bod ar waith ers 14 mlynedd ac mae'n cael ei ddefnyddio'n helaeth gan gymudwyr, myfyrwyr a thrigolion yr ardal, yn ogystal â thwristiaid sy'n cyrraedd Bannau Brycheiniog, Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a llawer o'r trefi a'r pentrefi hyfryd ar hyd y llwybr.

Mae Celtic Travel, sydd wedi'i leoli yn Llanidloes, Powys, wedi bod yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth dibynadwy ledled Canolbarth Cymru a'r ardaloedd cyfagos ers 2006.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’n dda gweld Celtic Travel yn ymuno â rhwydwaith Traws ac yn darparu’r T4 o fis Medi eleni. Mae hwn yn llwybr pwysig sy’n cysylltu trefi a phentrefi yng nghanolbarth Cymru.”

Dywedodd Phyl Davies, Cyfarwyddwr Celtic Travel: “Rydym yn gyffrous i fod yn ymgymryd â’r contract newydd hwn a byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Williams of Brecon i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth gwell o ran safon a dibynadwyedd i gwsmeriaid T4 gan ddefnyddio ein blynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu gwasanaethau coetsys a bysiau i bobl Powys.

“Gwych yw bod yn rhan o rwydwaith TrawsCymru, a chyda’n gwybodaeth am y rhwydwaith ffyrdd lleol a’n gwerthfawrogiad o ddaearyddiaeth yr ardal hon, teimlwn y gallwn gyfrannu llawer at y gwasanaeth hwn.”

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio yn TrC: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Celtic Travel i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Byddwn yn datblygu’r amserlen ac yn gwella gwasanaethau lle bo modd, gan gynnwys cyflwyno cerbydau newydd ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

“Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall gweithredwyr bach a chanolig weithio mewn partneriaeth i wneud ceisiadau am dendrau ac ymgymryd â chontractau newydd.”

Bydd Stagecoach yn parhau i weithredu gwasanaeth T4 TrawsCymru tan ddiwedd mis Awst, yna o fis Medi ymlaen bydd Stagecoach yn lansio gwasanaeth X4 newydd rhwng Merthyr a Chaerdydd gyda bysiau’n gweithredu hyd at bob chwe deg munud, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Bydd y gwasanaeth X4 newydd yn gwasanaethu Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, gan gynnig cysylltiadau gwell â lleoedd gwaith, addysg a hamdden.