18 Tach 2022
Mae trenau, pont reilffordd a phrif swyddfa Trafnidiaeth Cymru (TrC) i gyd yn cael eu trawsnewid i gefnogi tîm pêl-droed dynion Cymru yng Nghwpan y Byd.
Mae nifer o drenau TrC yn mynd i gael eu haddurno â darlun gan yr artist lleol Phil Morgan, a grëwyd ar gyfer Gŵyl Cymru, mewn pryd ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn y twrnament yn erbyn UDA ddydd Llun 21 Tachwedd.
Mae tlws Cwpan y Byd a het fwced hefyd wedi’i droi’n furlun eiconig ar Bont Heol Casnewydd yng Nghaerdydd, un o’r llwybrau prysuraf i mewn i brifddinas Cymru.
Mae’r murlun wedi’i greu gan yr artistiaid gweledol Yusuf Ismail a Shawqi Hasson, sy’n ffurfio cydweithfa greadigol Unify o Gaerdydd ac wedi’i gynhyrchu fel rhan o Ŵyl Cymru, gŵyl gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd Antonio DiCaprio, Rheolwr Safonau Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Rydym yn gyffrous am y gwaith y mae Yusuf a Shawqi (Unify) wedi’i gwblhau i ni a CBDC ar ein seilwaith.
“Rydym wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â CBDC ac Unify i greu mwy o gyfleoedd gwaith celf ar gyfer ein seilwaith gyda’r diben o gysylltu, ysbrydoli a chyffroi ein cymunedau lleol drwy chwaraeon a’r gwaith rydym ni yn Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.”
Mae Trafnidiaeth Cymru ynghyd â’u Rheolwr Seilwaith, Amey Infrastructure Wales, sy’n berchen ar ac yn cynnal Pont Heol Casnewydd, wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd a Centregreat Rail i hwyluso a chefnogi gosod y gwaith celf ar y bont, sydd wedi’i gomisiynu gan CBDC.
Dywedodd Yusuf Ismail, o Unify: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o osod y gwaith celf hwn a hoffem ddiolch i’r holl bartneriaid a gymerodd ran i wneud i hyn ddigwydd.
“Mae’r ymateb wedi bod yn hynod gadarnhaol ac yn helpu i gadarnhau’r etifeddiaeth yn y foment hanesyddol hon ym mhêl-droed Cymru.”
Yn ogystal â’r gwaith i drawsnewid ei drenau a phont Heol Casnewydd, bydd TrC hefyd yn goleuo ei brif swyddfa’n goch pan fydd Cymru’n chwarae yn erbyn UDA, Iran a Lloegr yng Nghwpan y Byd.
Mae staff TrC o bob rhan o rwydwaith trenau, bysiau a theithio llesol Cymru hefyd wedi recordio fideo ‘pob lwc’ dwyieithog i gefnogi carfan Rob Page, a dydd Mercher fe wnaeth aelodau o Gôr Meibion Tonna gan i deithwyr rheilffordd gan berfformio’r anthem ar nifer o wasanaethau TrC.