Skip to main content

TfW's support for Hope House & Ty Gobaith Children’s Hospices is on track

11 Tach 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi datgelu dyluniad newydd ar un o'i drenau blaenllaw i gefnogi hosbisau Hope House a Tŷ Gobaith sydd wedi’u lleoli yng nghanol a gogledd Cymru.

Mae Hope House a Tŷ Gobaith yn darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n peryglu bywyd, a'u teuluoedd sydd o chanol a gogledd Cymru.  Mae hefyd yn cynnwys gofal seibiant ac argyfwng, gofal diwedd oes, a chymorth cwnsela a phrofedigaeth.

Pleidleisiodd aelodau’r cyhoedd, trwy gyfrif Twitter TrC, dros dair elusen yr hoffent weld y sefydliad yn eu cefnogi trwy frandio nifer o’r trenau.  Dyma'r elusennau a ddewiswyd:

  1. Hope House & Tŷ Gobaith   
  2. RNLI   (elusen bad achub)
  3. Cymdeithas Alzheimer   Cymru (elusen dementia)

Mae set o gerbydau Mark IV y mae TrC newydd eu cyflwyno i'r gwasanaeth wedi'u haddurno gyda brand dwyieithog Hope House a Tŷ Gobaith.  Pan fydd trên Tŷ Gobaith yn gwneud ei ffordd ar hyd rhwydwaith Cymru a'r Gororau, credir y bydd y nifer y bobl y bydd yn gweld y trên cymaint a channoedd o filoedd, yn enwedig gan fod mwy a mwy o bobl yn dychwelyd i deithio ar drenau.  

Dywedodd Cyfarwyddwr Pobl a Newid TrC, Bethan Jelfs: "Mae elusen Hope House a Tŷ Gobaith yn elusen fendigedig sydd wir yn cael effaith ar gymaint o blant a theuluoedd, yn aml ar yr adegau mwyaf heriol.  Mae Trafnidiaeth Cymru yn hynod o falch o allu cefnogi'r elusen anhygoel hon.

“Edrychaf ymlaen at weld trên Hope House a Tŷ Gobaith yn teithio ar hyd ein rhwydwaith o amgylch Cymru a thu hwnt a gobeithio y bydd y cannoedd o filoedd o bobl a fydd yn gweld y trên yn cefnogi'r elusen."

Ychwanegodd Simi Epstein, Cyfarwyddwr Codi Arian yr elusen: “Roeddem wrth ein boddau o gael ein dewis i ymddangos ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru.  Rydym eisoes yn cael llawer o alwadau gan deuluoedd sy'n llawn cyffro am eu bod wedi gweld ein logo yn teithio trwy eu gorsafoedd lleol.

“Diolch yn fawr iawn i Drafnidiaeth Cymru am ein gwahodd i fod yn rhan o’r hyrwyddiad newydd cyffrous hwn.”