Skip to main content

Welsh rarebit, male voice choir and Welsh cakes

25 Chw 2026

Bydd teithwyr ardraws Cymru yn cael ei diddanu gan lu o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) nodi’r achlysur gyda bwyd, cerddoriaeth ac ysbryd cymunedol.

Bydd stondin fwyd yn gweini Caws Pob traddodiadol y tu allan i orsaf Caerdydd Canolog o ganol y bore i ganol y prynhawn ddydd Gwener 27 Chwefror, gyda Chôr Meibion Cwmbach yn perfformio gan droi un o orsafoedd prysuraf Cymru yn fan rhagorol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Mae'r dathliadau'n ymestyn ymhellach ar hyd y rhwydwaith, gyda theithwyr ar lwybrau TrawsCymru T2, T3 a fflecsi ym Machynlleth a Dolgellau yn cael cynnig cacen gri gan staff.

Ym Merthyr Tudful, bydd partneriaeth rheilffyrdd cymunedol TrC gyda Theatr Soar hefyd yn rhoi cacennau cri wedi’u pobi gan elusen leol i deithwyr ar drenau ac mewn gorsafoedd. Bydd teithwyr sy’n archebu eu diod yn y Gymraeg yn y caffi yn derbyn taleb diod am ddim.

Mae’r bartneriaeth yn parhau ar ddydd Sadwrn gyda sesiwn grefftau am ddim yn Theatr Soar cyn i’r lleoliad agor ei ddrysau ar gyfer dathliad ar y cyd o’i ben-blwydd yn 15 oed gyda bandiau byw ac adloniant i’r teulu.

Dywedodd Lowri Joyce, Pennaeth y Gymraeg: “Mae Dydd Gŵyl Dewi yn foment i Gymru ddod ynghyd a dathlu'r hyn sy'n gwneud ein gwlad mor arbennig.

"Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym am gael ein gwau i mewn i wead bywyd bob dydd yng Nghymru, gan gysylltu pobl â swyddi, addysg, a'i cysylltu â'i gilydd.

"P'un a ydych yn ymuno â ni am Gaws Pob a gwrando ar gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd, mwynhau cacen gri ar rwydwaith TrawsCymru, neu'n crwydro llwybr y Mabinogi'r penwythnos hwn, dymunwn Ddydd Gŵyl Dewi Hapus i bob un ohonoch.”

Mae TrC yn noddi Llwybr Chwedlau Cymru Caerdydd ar y penwythnos, llwybr cerdded am ddim o amgylch y ddinas sydd wedi'i ysbrydoli gan y Mabinogi. I gael rhagor o wybodaeth, dyma’r ddolen - forcardiff.com/littlethings/mabinogi-trail/.

Gall teuluoedd sy'n teithio i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar draws rhwydwaith TrC fanteisio ar docyn teulu. Mae’n caniatáu i hyd at ddau blentyn (o dan 16 oed) deithio am ddim gyda phob oedolyn sy'n talu am docyn.

I ddarganfod mwy ac i archebu eich tocynnau ewch i - https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/mathau-o-docynnau/tocyn-teulu 

Nodiadau i olygyddion


Bydd disgyblion o Ysgol San Siôr yn perfformio yng ngorsaf Llandudno ddydd Llun 2 Mawrth o 13:30 gyda bisgedi yn cael eu darparu i deithwyr