Skip to main content

Line closure between Abercynon and Merthyr Tydfil

06 Hyd 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith o adeiladu Metro De Cymru gyda gwaith mawr yn cael ei wneud ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL).

Rhwng dydd Mawrth 11 Hydref a dydd Iau 3 Tachwedd 2022, bydd y llinell rhwng Abercynon a Merthyr Tudful ar gau fel y gall gwaith peirianyddol trwm gael ei wneud, fel rhan o'r paratoadau ar gyfer cyflwyno tram-drenau trydan newydd sbon.  Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaeth bws yn lle trên fydd yn galw ym mhob gorsaf ar hyd y llinell hon.

Bydd y cau am 25 diwrnod yn caniatáu i beirianwyr wneud gwaith cymhleth gan gynnwys cwblhau’r sylfeini sy’n weddill a gosod pyst dur ar gyfer yr Offer Llinell Uwchben, gwneud gwaith newydd ar y trac ar gyfer switshis a chroesfannau ym Mhentrebach a Mynwent y Crynwyr, gwneud gwaith pellach i adeiladu’r platfform newydd ym Mynwent y Crynwyr, gwaith gwella mewn gorsafoedd eraill, gwelliannau i gyflymder y llinell ac ymdrin â llystyfiant ar draws y llinell.

Mae mynd ati i gau am gyfnod yn helpu i leihau’r angen am weithio gyda’r nos gymaint â phosibl, gan leihau’r angen i darfu ar gymdogion ochr y llinell dros nos hefyd.

Bydd y buddsoddiad yn y Metro yn gwella cysylltedd yn sylweddol gan ddarparu mynediad i swyddi, hamddena a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau rheilffordd, bysiau a theithio llesol.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y Metro ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys blog yn ateb rhai cwestiynau cyffredin am y gwaith o drawsnewid y Metro.

Llwytho i Lawr