Skip to main content

Temporary closure of Ty Glas railway station for major upgrades

20 Meh 2025

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gwaith uwchraddio mawr i orsaf Tŷ Glas a'i chroesfan reilffordd wrth iddo baratoi i gyflwyno trenau newydd sbon ar linell Coryton.  

I gyflawni'r gwaith uwchraddio hwn, bydd yr orsaf a'r groesfan reilffordd ar gau o ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf. Bydd y groesfan lefel yn ailagor ar ôl cwblhau'r uwchraddiadau diogelwch angenrheidiol. Mae TrC yn anelu at eu cwblhau cyn gynted â phosibl gan fod y groesfan yn cael ei defnyddio'n dda gan y gymuned leol. 

Bydd gorsaf Tŷ Glas yn cau am gyfnod o 10 mis ac yn ailagor yng Ngwanwyn 2026. 

Bydd y gwaith uwchraddio yn cynnwys ehangu’r platfform yng ngorsaf Tŷ Glas gan 16m yn ogystal â gwelliannau diogelwch hanfodol i'r groesfan reilffordd, gan gynnwys dec croesi newydd a mynediad gogleddol o'r orsaf.  

Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn gallu darparu ar gyfer y trenau trydan newydd a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o fuddsoddiad £800 miliwn Llywodraeth Cymru mewn trenau newydd ar draws y rhwydwaith. 

Dywedodd Prif Swyddog Seilwaith TrC, Dan Tipper:   

"Mae cau gorsaf Tŷ Glas a'i chroesfan reilffordd dros dro yn gam angenrheidiol yn ein hymrwymiad i sicrhau diogelwch ein teithwyr wrth i ni baratoi i gyflwyno trenau tri-modd newydd sbon ar linell Coryton.  

“Bydd y gwaith uwchraddio hwn nid yn unig yn cefnogi cyflwyno ein trenau trydan newydd ond hefyd yn dod â manteision hirdymor i'r gymuned trwy wella diogelwch y groesfan reilffordd, sy'n bwysicach nag erioed yn dilyn cyflwyno'r trenau llawer tawelach hyn.” 

Yn ystod cyfnod cau'r orsaf, bydd teithwyr yn cael eu cyfeirio i orsaf Llwynbedw, sydd wedi'i lleoli o fewn pellter cerdded byr o orsaf Tŷ Glas. Bydd y rhai sydd angen croesi'r rheilffordd tra bod y groesfan reilffordd ar gau yn cael eu cyfeirio i ddefnyddio Pont Ffordd Caerffili. 

Mae cyflwyno pum trên tri-modd Dosbarth 756 newydd sbon ar linellau Coryton a Chaerffili i Benarth yn nodi cam mawr ymlaen ym mhrosiect Metro De Cymru, gan ddarparu mwy o gapasiti ar y trên, profiad teithio mwy cyfforddus a mynediad haws o'r trên i'r platfform.  

Hoffai TrC ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth iddynt gyflawni'r gwaith uwchraddio diogelwch hanfodol hwn. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr uwchraddiadau a'r llwybrau dargyfeirio hyn ar wefan TrC

Nodiadau i olygyddion


Bydd amseroedd trenau'n aros yr un fath â heddiw ar gyfer gwasanaeth sy'n cyrraedd ac yn gadael Llwynbedw a Lefel Isel y Mynydd Bychan. 

Llwytho i Lawr