24 Mai 2024
Yn ddiweddar, lansiodd Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol South West Wales Connected a Severnside gasgliad newydd o farddoniaeth ar thema’r rheilffyrdd 'Train of Thought: A Poetry Anthology Inspired by Rail Routes from Taunton to West Wales.'
Ariannwyd y flodeugerdd diolch i'n cronfa Her Rheilffyrdd Cymunedol gyda'r ddwy bartneriaeth rheilffyrdd cymunedol yn gweithio gyda grwpiau barddoniaeth sydd wedi bodoli ers tro ar draws eu rhanbarthau, i gyflwyno cyfres o weithdai barddoniaeth ac yna gwahoddiad i ysgrifennu a chyflwyno cerddi mewn ymateb i'r cwestiwn: Beth mae'r rheilffordd yn ei olygu i chi?
Derbyniwyd dros 100 o gyflwyniadau ar ôl y gweithdai, ac o'r rhain dewiswyd 60 cerdd i'w cynnwys yn y flodeugerdd.
Mae'r ymatebion yn eang ac yn cwmpasu atgofion, dychymyg a chariad parhaus tuag at deithio ar y rheilffyrdd.
Cafodd y prosiect barddoniaeth ei ysbrydoli gan lwyddiant Soundtrack to the Severn Beach Line, prosiect yn 2019 a unodd gerddorion a beirdd o dan faner Track Record Arts.
Yn dilyn ei lwyddiant, roedd Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Severnside yn awyddus i gynnwys mwy o lwybrau rheilffordd lleol wrth greu "tapestri o benillion a llesymudiad", ac roedd South West Wales Connected am gael y cyfle i gymryd rhan hefyd.
"Mae hwn wedi bod yn bleser ac yn brosiect anhygoel i fod yn rhan ohono," meddai Eve Sherratt, swyddog rheilffyrdd cymunedol South West Wales Connected. "Mae wedi uno barddoniaeth a’r rheilffordd, ac yn ogystal â dod â’r profiad o deithio ar y rheilffyrdd yn fyw, mae hefyd wedi tanio gwreichionen greadigol mewn artistiaid a theithwyr fel ei gilydd, gan feithrin cysylltiad dyfnach â'n rheilffyrdd gwych.
"Mae'r flodeugerdd newydd yn ganlyniad syfrdanol. Diolch yn arbennig i'r beirdd a gymerodd ran - Bob Walton, Bethan Handley, Kerry Steed, Claire Williamson a Sue Hill, a helpodd i hwyluso a chynnal y gweithdai barddoniaeth anhygoel."
Ychwanegodd Melanie Lawton, arweinydd strategaeth Community Rail: "Mae Train of Thought yn cynnig cynnwys hudolus ar gyfer taith y cwsmer, wedi'i ariannu gan gronfa Her Rheilffyrdd Cymunedol. Rydym wedi mwynhau'r straeon, yr atgofion a chysylltu cymunedau â'u rheilffyrdd.”
Roedd lansiad y llyfr, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Clayton yng Nghaerdydd ddydd Llun Mai 13 yn cynnwys darlleniadau gan rai o'r beirdd a gynhwysir yn y casgliad.