Skip to main content

Extra capacity and improved trains for rail passengers across Wales and the borders

03 Hyd 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi cynlluniau i ddarparu lle ar gyfer hyd at 6,500 o deithwyr ychwanegol bob wythnos o fis Rhagfyr eleni ymlaen, ar yr un pryd â chyflwyno trenau ychwanegol ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Bydd y gwelliannau i deithwyr ym mis Rhagfyr 2019 yn cynnwys:

• Bydd mwy o drenau gyda phedwar cerbyd yn teithio ar hyd Llinellau y Cymoedd, a gyda newidiadau i cerbydau eraill, byddwn yn darparu lle ar gyfer hyd at 6,500 yn rhagor o deithwyr bob wythnos.
• Bydd teithwyr rhwng Cheltenham a Maesteg a rhwng Caerdydd a Glynebwy yn defnyddio trenau modern Dosbarth 170 sydd â rhagor o le, systemau gwybodaeth i deithwyr, toiledau hygyrch, system awyru, Wi-Fi a socedi pŵer.
• Bydd teithwyr sy’n teithio’n bell ar rai gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Manceinion yn teithio ar gerbydau mwy modern ‘Mark 4 intercity’.

Fel rhan o’r cynllun sydd wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer mis Rhagfyr, bydd Poterbrook, cyflenwr y trenau Dosbarth 769 sydd ar ei hôl hi, yn darparu trenau Dosbarth 153 ychwanegol tan bydd y trenau Dosbarth 769 sydd wedi cael eu harchebu ar gael i’w defnyddio.

Dywedodd Mary Grant, Prif Swyddog Gweithredol Porterbrook:

“Mae Porterbrook wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda TrC wrth iddyn nhw barhau i drawsnewid profiad pawb sy’n teithio ar y trenau yng Nghymru. Mae rhai o cynlluniau TrC dibynnu ar ein trenau Dosbarth 769 arloesol. Mae cyflwyno’r trenau hyn wedi disgyn ar ei hôl hi ac rydyn ni’n ymddiheuro am hynny. Rydyn ni’n gweithio gyda TrC a’n cadwyn gyflenwi i ddarparu’r trenau hyn cyn gynted ag sy’n bosibl. Yn y cyfamser, rydyn ni wedi darparu ein hunedau Dosbarth 170 yn gynt ac rydyn ni hefyd yn darparu cerbydau ychwanegol er mwyn llenwi’r bwlch ar gyfer y trenau Dosbarth 769 ac er mwyn cefnogi TrC a'u teithwyr.”

Bydd TrC hefyd yn gwella’r profiad ar y trenau yn ystod teithiau hir drwy gyflwyno cerbydau Mark 4 intercity sydd wedi cael eu hailwampio ac sy’n fwy hygyrch ar rai gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Manceinion. Bydd gwasanaeth ychwanegol sy’n cael ei dynnu gan locomotif hefyd ar y llwybr rhwng Caergybi a Chaerdydd sy’n cysylltu’r De a’r Gogledd.

Mae adborth gan deithwyr wedi dangos bod yr angen i wella capasiti a gwytnwch yn y fflyd yn flaenoriaeth allweddol. Mae TrC yn bwriadu cyflwyno hyn drwy gadw’r trenau Pacer am gyfnod byr yn ystod 2020, ar yr amod eu bod yn derbyn yr oddefeb angenrheidiol yn erbyn y gofynion gorfodol ar hygyrchedd a ddaw i rym ar 1af Ionawr 2020. Yn raddol byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r trenau Pacer a’r trenau Dosbarth 37 sy’n cael eu tynnu gan locomotif wrth i’r trenau Dosbarth 769 modern a chyfforddus ddod ar gael yn y flwyddyn newydd.

Cafodd y trenau Dosbarth 37 poblogaidd sy’n cael eu tynnu gan locomotif eu hychwanegu at y fflyd dros dro yn ôl ym mis Mai 2019 er mwyn helpu i roi hwb cyflym i gapasiti ar reilffordd brysur Cwm Rhymni – unwaith eto mewn ymateb i’r gofynion gan gwsmeriaid am seddi ychwanegol.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae ein hymchwil ymysg cwsmeriaid yn dangos bod gallu eistedd neu sefyll yn gyfforddus ar drên yn flaenoriaeth uchel i nifer o bobl, ac felly rydyn ni’n gobeithio y bydd ein cwsmeriaid yn croesawu’r cynlluniau a fydd yn golygu cynnydd mawr mewn capasiti ar gyfer mis Rhagfyr.

“Rydyn ni hefyd yn falch ein bod yn gwella’r profiad cyffredinol i deithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau rhwng Cheltenham a Maesteg, a rhwng Caerdydd a Glynebwy drwy gyflwyno trenau hygyrch sy’n fwy modern.

“Ein bwriad ydy cadw rhai o’n trenau Pacer a Dosbarth 37 wedi’u tynnu gan locomotif am gyfnod byr yn 2020 er mwyn i ni allu cynyddu'r capasiti ar hyd ein llwybrau prysuraf, a fydd yn golygu mwy o le ar y trenau ar gyfer ein cwsmeriaid.

“Rydyn ni wastad wedi canolbwyntio ar gyflawni’r hyn mae ar gwsmeriaid ei eisiau, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu rhagor o gapasiti, sy’n flaenoriaeth allweddol. Rhaid i ni barhau i ymateb i anghenion ein holl gwsmeriaid, hyd yn oed os ydy hyn yn golygu newid ein cynlluniau.”

 

Nodiadau i olygyddion


Nodiadau i olygyddion;
Mae ymchwil ymhlith cwsmeriaid TrC wedi datgelu:
• Mae cwsmeriaid yn rhoi blaenoriaeth uwch i allu eistedd neu sefyll yn gyfforddus ar drên nag unrhyw beth arall, fel prydlondeb y gwasanaeth.
• Mae perfformiad TrC ar hyn o bryd yn is na disgwyliadau cwsmeriaid yng nghyswllt capasiti.
• Mae mwy o negeseuon trydar am gapasiti nag oedi/problemau neu ansawdd y cerbydau.
• Mae ffigurau’r cwynion yn dangos patrwm bod mwy a mwy o gwynion ynghylch capasiti o un mis i’r llall.
• Mae ton ddiweddaraf yr NRPS yn ogystal ag arolygon misol o fodlonrwydd cwsmeriaid ac arolygon siopwr dirgel yn dangos darlun tebyg ac mai trenau gorlawn ydy'r broblem fwyaf (yn enwedig i'r rheini sy’n teithio ar drenau i’w gwaith bob dydd).

Bydd y capasiti ychwanegol yn cael ei ddarparu drwy newid y cynllun cyfredol, sy’n cynnwys gweithredu 11 gwasanaeth gyda threnau Dosbarth 150 yn hytrach na’r Pacers. Mae'r trenau mwy hyn, sy’n cael eu huwchraddio i wella hygyrchedd, yn darparu rhagor o le yn ystod yr oriau brig yn y bore a diwedd y prynhawn ar wasanaethau Treherbert, Aberdâr a Merthyr. Bydd hyn yn golygu capasiti ar gyfer 1300 yn rhagor o gwsmeriaid bob dydd, ac felly hyd at 6500 bob wythnos.

Bydd y trenau Pacer yn cael eu defnyddio fel trenau pedwar cerbyd ar y rhan fwyaf o wasanaethau rheilffordd Rhymni, gyda’r trenau Dosbarth 37 wedi’u tynnu gan locomotif yn parhau i gael eu defnyddio wrth i’r trenau Dosbarth 769 mwy a modern gael eu cyflwyno’n raddol yn y flwyddyn newydd.

Bydd y gofyniad gorfodol i gerbydau ddiwallu safonau hygyrchedd modern yn dod i rym ar 1 Ionawr 2020. Bydd unrhyw drenau a fydd yn aros mewn gwasanaeth gyda lefelau hygyrchedd cyfredol yn benderfyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn y DU a fydd yn ystyried ceisiadau am oddefeb yn erbyn safonau o'r diwydiant rheilffordd ar rinweddau pob achos.

Llwytho i Lawr