Skip to main content

TfW supports 'Boys need bins' campaign

26 Medi 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ymgyrch i helpu dynion sy’n dioddef o anymataliaeth drwy osod biniau glanweithiol mewn lleoliadau cyhoeddus.

Mae’r ymgyrch “Bechgyn Angen Biniau” gan Prostate Cancer UK yn tynnu sylw at pa mor rhwystredig y gall anymataliaeth fod.

Yn ôl eu hymchwil, mae arolwg o ddynion sy’n byw gydag anymataliaeth yn dangos bod 95% yn teimlo’n bryderus oherwydd diffyg biniau glanweithiol yn nhoiledau dynion i gael gwared ar badiau mewn modd hylan. Mae ystadegau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Mae bron i draean o’r dynion a holwyd wedi cael eu gorfodi i gario eu gwastraff eu hunain mewn bag.
  • Mae 1 o bob 3 dyn dros 65 oed yn y DU yn profi anymataliaeth wrinol, ac mae 1 o bob 20 dyn sy’n 60 oed neu’n hŷn yn byw gydag anymataliaeth y coluddyn.
  • Mae’r ymgyrch ‘Bechgyn Angen Biniau’, sy’n cael ei harwain gan Prostate Cancer UK, yn galw ar y llywodraeth i newid y ddeddfwriaeth bresennol, fel bod biniau glanweithiol yn cael eu darparu ym mhob toiled i ddynion.

Ac ar y rheilffordd, dydy’r gofid hwnnw ddim yn eithriad. Mae Transport Focus, grŵp cwsmeriaid annibynnol, yn gweithio’n agos gyda TrC i helpu i ddod â’r ymgyrch i rwydwaith Cymru a’r Gororau.

O ddiwedd mis Medi, bydd cofeb Canser y Prostad yn cael ei harddangos yng ngorsaf Caerdydd Canolog, sef cerflun i gofio am y gwŷr, tadau, ewythrod a theidiau sydd wedi cael marw o ganser y prostad. Mae’n ddathliad o gynifer o fywydau unigryw a rhyfeddol.

Dywedodd Lisa Cleminson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid TrC: “Rydyn ni’n gwybod bod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd wych o fod yn fwy cynaliadwy, ond mae’n dod gyda’i bryderon hefyd. Pa blatfform rydw i ei angen? A fydd fy nhrên ar amser?

"Lle mae’n rhaid i mi newid tren? Felly’r peth olaf rydyn ni eisiau ei wneud yw ychwanegu at y pryder hwnnw i ddynion sydd angen cael gwared ar eu padiau anymataliaeth. Gall effeithio ar iechyd meddwl a rhwystro pobl rhag teithio’n gyfan gwbl.

“Mae’n rhaid i ni fel diwydiant rheilffyrdd arwain y gwaith o chwalu’r rhwystrau hynny.”

“Felly rwy’n falch iawn o ddweud ein bod yn gweithio gyda Transport Focus ar dreialu biniau glanweithiol yn nhoiledau’r dynion mewn dwy o’n gorsafoedd prysuraf, yng ngorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Caer. Rydym wedyn yn disgwyl i hynny gael ei gyflwyno yn ein gorsafoedd hwb allweddol yn Amwythig, Casnewydd ac Abertawe, cyn ehangu ymhellach.”

Mae biniau glanweithdra ym mhob un o doiledau hygyrch TrC ac mae’r rhain ar gael drwy gynllun allwedd RADAR, hyd yn oed ar adegau pan nad oes staff yn yr orsaf a phan fydd y prif doiledau dan glo.

Mae cynllun toiledau ‘Changing Places’ hefyd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Network Rail, sy’n diwallu llawer o anghenion a gofynion hygyrchedd pobl sy’n teithio, gan gynnwys biniau glanweithiol.

Mae rhai o’r toiledau hyn eisoes wedi cael eu gosod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Phort Talbot ac mae’r adborth gan gwsmeriaid yn gadarnhaol iawn.

Bydd arwyddlun yn cael ei arddangos ar ddrysau’r toiledau hynny sydd â biniau glanweithiol fel ei bod yn hawdd eu hadnabod ac yn dangos bod TrC yn gweithio gyda Prostate Cancer UK.

Fel rhan o brosiect Metro De Cymru, mae toiledau cyffredinol newydd yn cael eu hadeiladu mewn gorsafoedd allweddol yn rhwydwaith y Cymoedd i sicrhau bod cwsmeriaid bob amser o fewn 15 munud i doiled yr orsaf wrth deithio.

Dywedodd Nick Ridgman, Pennaeth Gwybodaeth Iechyd a Chefnogaeth Glinigol yn Prostate Cancer UK:“Ni ddylai dyn sy’n byw gydag anymataliaeth orfod poeni y gallai orfod cario ei badiau ei hun pan fydd allan o’r tŷ, dim ond am nad yw’n gallu cael mynediad at fin glanweithiol i’w waredu mewn modd hylan.

“I’r cannoedd o filoedd o ddynion yn y DU sy’n byw gydag anymataliaeth, dyma eu realiti. Mae eu bywydau’n cael eu cyfyngu gan y tabŵ sy’n amgylchynu anymataliaeth dynion, a’r pryder a achosir gan ddiffyg cyfleusterau sylfaenol mewn toiledau dynion.

“Rydyn ni’n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ein hymgyrch Bechgyn Angen Biniau, ac yn cyflwyno biniau glanweithiol mewn toiledau dynion ar draws y gorsafoedd rheilffyrdd prysuraf.

“Er ein bod yn y pen draw eisiau i gyfreithiau newid fel bod pob dyn yn gallu cael mynediad at fin, yn y cyfamser mae’n gyffrous bod newid go iawn yn digwydd ledled Cymru a gweddill y DU, wrth i’r ymgyrch ddatblygu momentwm.”

Michelle Roles, Rheolwr Rhanddeiliaid Cymru, Transport Focus: “Codwyd y mater ‘Bechgyn Angen Biniau’ gyda ni am y tro cyntaf gan Aelod o’r Senedd, Carolyn Thomas, yn ein cyfarfod cyhoeddus o’r Bwrdd ar ran teithiwr sy’n defnyddio rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru. Fe wnaethom godi’r mater gyda Trafnidiaeth Cymru a gofyn am eu cymorth.

“Rydyn ni’n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru yn treialu hyn i fynd i’r afael â rhwystr i deithio, gyda chefnogaeth Prostate Cancer UK. Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r fenter yn mynd rhagddi a byddwn yn annog gweithredwyr trafnidiaeth eraill i wneud yr un peth – gall newidiadau bach wneud byd o wahaniaeth i deithwyr.”

Llwytho i Lawr