21 Maw 2023
Bydd rhywfaint o seilwaith rheilffordd hynaf y byd yn cael ei drawsnewid yn llwyr fel rhan o brosiect Metro De Cymru.
Bydd maint y gwaith sydd ei angen ar Reilffordd Treherbert yn golygu y bydd y llwybr rhwng Pontypridd a Threherbert ar gau o ddiwedd mis Ebrill 2023 tan ddechrau 2024. Ni fydd unrhyw wasanaethau trên yn rhedeg yn ystod y cyfnod hwn.
Tra bydd y gwaith o drawsnewid Lein Treherbert yn mynd rhagddo, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnig gostyngiad o 50% oddi ar gost tocyn i bobl sy’n byw yn y Rhondda. Bydd y cynnig yn ddilys ar gyfer teithiau sy'n gyfan gwbl ar y lein a theithiau rhwng gorsafoedd ar y lein a gorsafoedd yr holl ffordd i Gaerdydd Canolog.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am sut y gall pobl fanteisio ar y cynnig hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Yn ystod yr wyth mis o waith, bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn gwasanaethu cwsmeriaid, a fydd yn cynnwys amserlen graidd sef un bws bob 30 munud yn galw ym mhob gorsaf, cynllun cymorth ysgol pwrpasol ar gyfer Ysgol Gyfun Treorci a gwell gwasanaeth yn ystod oriau brig y bore a min nos er mwyn lleihau amseroedd teithio a chreu mwy o le.
System signalau gyfredol
Cyflwynwyd y 'System Signalau Cyfnewid Tocynnau' a ddefnyddir ar hyn o bryd ar Linell Treherbert ym Mhrydain am y tro cyntaf yng nghanol y 19eg ganrif a chredir bod peth o'r offer sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw yn dyddio'n ôl i'r 1930au.
Bydd nawr yn cael ei symud a'i ddisodli gan system signalau fodern, newydd sbon ar gyfer y llinell gyfan fel rhan o brosiect Metro De Cymru.
Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys dargyfeirio prif gyflenwad nwy a dŵr, adeiladu platfformau newydd yng ngorsafoedd Treherbert, Ynyswen a Dinas Rhondda, adeiladu pontydd troed newydd yn Ynyswen a Dinas Rhondda a gosod trac newydd a Chyfarpar Llinell Uwchben ar hyd y lein.
Bydd gwaith pellach yn cynnwys diweddaru ac adeiladu toiledau newydd, ystafelloedd aros, cysgodfannau a gosod neu uwchraddio mannau cymorth, camerâu teledu cylch cyfyng, peiriannau tocynnau a sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth: “Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bob teithiwr. Mae'n anochel y bydd tarfu ac anghyfleustra yn y tymor byr ond bydd yn creu gwelliant aruthrol maes o law. Byddwch yn amyneddgar gyda ni, bydd y datblygiad yn rhagorol.”
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: “Dyma garreg filltir allweddol arall ar gyfer prosiect Metro De Cymru. Dyma’r uwchraddiad mwyaf i’r raddfa hon o seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd ers iddo gael ei adeiladu gyntaf. Mae’n seilwaith sydd wedi dyddio ac mae gan ein timau a’n partneriaid lawer o waith i’w wneud i’w diweddaru.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd yn hynod anghyfleus tra bydd y lein ar gau rhwng Ebrill a dechrau 2024, ond mae trawsnewid y rheilffordd sy'n hen bellach a’i diweddaru yn y modd cywir gyda lein fodern, drydanol a fydd yn caniatáu i ni redeg gwasanaethau’n amlach ac yn wyrddach gan, yn y pen draw, ddarparu gwasanaeth rheilffordd y mae pobl y Rhondda yn ei haeddu.
“Bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg trwy gydol y blocâd a dylai cwsmeriaid sydd eisiau gwybodaeth bellach wirio ar-lein neu ddefnyddio ein ap.”
Yn ystod pythefnos cyntaf y gwaith ar Lein Treherbert, bydd y llinellau i Aberdâr a Merthyr Tudful hefyd ar gau ar gyfer gwaith trawsnewid Metro De Cymru.
Bydd cynllunwir taith yn cael eu diweddaru gyda'r wybodaeth am bysiau yn lle trên o'r 28ain o Fawrth.
Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.
Bydd y buddsoddiad yn y Metro yn gwella cysylltedd yn sylweddol gan ddarparu mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.