Skip to main content

New Body Cameras for Transport for Wales Staff

13 Chw 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio treial camerâu corff er mwyn gwella diogelwch eu cwsmeriaid a’u staff. Bydd staff rheilffyrdd penodol gan gynnwys goruchwylwyr a staff gorsafoedd yn cael y Camerâu Corff modern a fydd yn helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gorsafoedd ac ar drenau.

Y llynedd roedd dros 350 o ddigwyddiadau o gam-drin geiriol neu gorfforol yn erbyn staff ar drenau yng Nghymru ac er bod y nifer yma’n fach o ran cyfanswm nifer y siwrneiau gan deithwyr, mae Trafnidiaeth Cymru yn awyddus i leihau'r nifer yma oherwydd ni ddylid goddef unrhyw ddigwyddiad o’r fath.

Mae’r ffigurau ar nifer y digwyddiadau gwrthgymdeithasol yng Nghymru yn dangos bod pethau’n gwella wrth gymharu â gweddill y DU ac mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddarparu teledu cylch cyfyng ym mhob gorsaf ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau ac mae eisoes wedi cyflwyno staff diogelwch ychwanegol.

Mae’r treial yma’n gam arall ymlaen i leihau’r math yma o ddigwyddiad ac mae’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Bydd y treial yn cynnwys pedwar gwahanol fath o gamera, ac ar ôl cyfnod o adolygu, bydd un cwmni’n cael ei ddewis i gyflenwi 300 ar draws y rhwydwaith.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru:

“Mae gan bawb hawl i weithio neu i deithio ar ein rhwydwaith heb ofni cael eu cam-drin neu eu bygwth. Dydy'r staff rheilffordd sydd yno i’n helpu ni yn ddim gwahanol i’n teulu a’n ffrindiau. Maen nhw’n gweithio’n galed i fynd â ni o A i B, a hynny’n aml mewn amgylchiadau anodd.

“Rhaid i ni gael gwared ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud popeth gallwn ni i gefnogi’r staff i wneud eu gwaith a gadael i’r teithwyr wneud eu siwrnai mewn amgylchedd diogel a dymunol.”

Ychwanegodd Daniel Hopkin sy’n defnyddio trenau’n rheolaidd rhwng Castell-nedd a Chaerdydd:

“Mae’n grêt bod Trafnidiaeth Cymru yn gosod camerâu ar eu staff. Rwy’n teithio’n rheolaidd ar y trên rhwng Castell-nedd a Chaerdydd ac rwy’n credu y bydd unrhyw welliannau mewn diogelwch o fudd i’r cwsmeriaid.

“Mae'r orsaf yn gallu bod fel ffair a dylai’r ffaith bod gan staff gamerâu corff atal rhywfaint o’r ymddygiad gwael ry’n ni’n ei weld o bryd i’w gilydd. Mae’n ymddangos bod Trafnidiaeth Cymru yn meddwl am ffyrdd gwahanol o wella pethau i’r cwsmeriaid ac mae’n hynny’n codi fy nghalon i fel teithiwr.”

Dywedodd Marc Clancy, un o Oruchwylwyr Trafnidiaeth Cymru:

“Rhaid i ni ddelio ag amrywiaeth o bobl bob dydd ac mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn ddiolchgar ac yn gwrtais. Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i roi’r profiad gorau posibl i’n cwsmeriaid wrth iddyn nhw ddefnyddio ein gwasanaethau, fodd bynnag, weithiau bydd staff a theithwyr yn gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cael eu cam-drin.

“Dylai cyflwyno’r camerâu hyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, cefnogi erlyniadau am ymosod a rhoi hwb i hyder y cyhoedd mewn diogelwch.

“Byddant yn rhoi mwy o hyder i’n staff rheng flaen pan fyddan nhw’n delio â sefyllfaoedd anodd a chwsmeriaid difrïol.”
Dywedodd Uwcharolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:

“Diogelwch teithwyr a’n cydweithwyr yn y diwydiant rheilffordd ydy ein prif flaenoriaeth ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i’w cadw nhw’n ddiogel.

“Rydyn ni’n cefnogi cyflwyno camerâu corff i staff rheng flaen Trafnidiaeth Cymru - rydyn ni’n gwybod o brofiad bod camerâu corff yn declynnau ffantastig sy’n ein helpu ni i sicrhau euogfarnau yn erbyn y rheini sy’n targedu staff gyda thrais neu gamdriniaeth ddiangen.

“Gobeithio y bydd eu cyflwyno’n atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn rhoi tawelwch meddwl i staff y rheilffordd a theithwyr.

“Yn ffodus, prin iawn ydy’r digwyddiadau o’r math yma, serch hynny, os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon wrth deithio, mae modd iddyn nhw anfon neges destun atom ni ar 61016.”

 

Llwytho i Lawr