Skip to main content

A step closer to more sustainable travel in South East Wales

03 Chw 2023

Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio yn dod yn haws yn Ne-ddwyrain Cymru gyda chynnydd parhaus tuag at ranbarth glanach, gwyrddach, sydd â chysylltiadau gwell.

Heddiw, mae manylion gwaith Uned Gyflawni Burns wedi'i gyhoeddi mewn adroddiad blynyddol diweddaraf (dydd Gwener 3 Chwefror).

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cynnydd gan Uned Gyflawni Burns wedi cynnwys dyfarnu grantiau teithio llesol Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol Caerdydd a Chasnewydd.  Mae'r arian wedi galluogi agor dwy ganolfan storio beiciau diogel gyntaf Cymru, The Bike Lock yng Nghaerdydd a Spokesafe yng Nghasnewydd.

Mae gwaith prosiect seilwaith mawr yn cynnwys ymchwilio i ddatblygiadau ar gyfer opsiwn yr A48 a’r llwybr Beicio Cenedlaethol, yr NCN88.  Mae hyn ynghyd â gwaith cynllunio ar gyfer gwelliannau i Ganol Dinas Casnewydd a Chylchfan Old Green.  Mae gwelliannau i'r rheilffyrdd hefyd yn yr arfaeth ar gyfer prif reilffordd De Cymru.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth: “Mae hwn yn adroddiad addawol iawn sy’n dangos cynnydd gwirioneddol.

“Rydym i gyd yn canolbwyntio ar wneud y peth iawn, i wneud y peth hawdd ac mae hynny’n golygu annog mwy o bobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle’r car.

“Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â rhai o’r prosiectau a amlygwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ac wedi gweld dros fy hun sut y maent yn cynnig dewisiadau amgen gwirioneddol i ddefnyddio'r car.

“Dyma’r union fath o gynnydd sydd angen i ni ei weld wrth i ni anelu at Gymru gryfach, wyrddach a thecach.”

“Mae Uned Gyflawni Burns wedi’i sefydlu i sicrhau bod argymhellion yr Arglwydd Burns a Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn dod yn realiti,” meddai Simon Gibson CBE, Cadeirydd, Uned Gyflawni Burns.

“Rydym yn cynllunio ar gyfer gwelliannau sylweddol i sicrhau y gall pobl gerdded a beicio yn ddiogel a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy fel rhan o’u bywydau pob dydd, er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd a llygredd traffig yn yr ardal.”

Meddai Gareth Potter, Uwch Reolwr y Prosiect:  “Mae'r adroddiad blynyddol yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn y mae'r bartneriaeth wedi'i gyflawni hyd yma.  Mae Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol Casnewydd, Sir Fynwy a Chaerdydd ynghyd â Trafnidiaeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r weledigaeth a chydweithio ar gyfer dyfodol gwell.”

I gael rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac Uned Cyflawni Burns, cliciwch yma. https://trc.cymru/prosiectau/uned-cyflenwi-burns