Skip to main content

Over 130,000 fans taken home safely by train this Autumn

04 Rhag 2024

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi llwyddo i ymdopi ag un o'i fisoedd Tachwedd prysuraf erioed, gan gludo dros 130,000 o gefnogwyr i Gaerdydd ar gyfer llu o ddigwyddiadau chwaraeon uchel eu proffil.

Yn ystod Gemau'r Hydref, Cynghrair y Cenhedloedd a Chynghrair Pencampwyr Merched UEFA, gwelwyd dros 130,000 o gefnogwyr yn teithio i mewn ac allan o'r ddinas ar yr un noson, gyda sawl mil hefyd yn teithio adref y diwrnod canlynol wedi iddynt aros dros nos yn y brifddinas.

Mae'r buddsoddiad o £800 miliwn y mae TrC yn ei wneud i drenau newydd sbon bellach yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar gydnerthedd a chapasiti gwasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

Er gwaethaf y ffaith iddynt wynebu heriau sylweddol a achoswyd gan dywydd garw, gan gynnwys eira a Storm Bert, helpodd trenau newydd TrC i reoli galw cynyddol yn llwyddiannus ac roeddent wedi gallu darparu gwasanaethau ychwanegol a chryfach.

Mae TrC bellach yn troi ei sylw at dymor yr ŵyl ac yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar ymgyrch ar y cyd i gadw teithwyr yn ddiogel.

Bydd Ymgyrch Genesis yn gweld mwy o swyddogion a staff rheilffyrdd ychwanegol ar draws y rhwydwaith drwy gydol mis Rhagfyr i atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â rhoi sicrwydd a chyngor diogelwch personol i'r cyhoedd.

Dywedodd Jan Chaudhry-van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru:

"Rydym wedi llwyddo i ddarparu gwasanaethau rheilffordd ar gyfer llawer o ddigwyddiadau uchel eu proffil yr hydref hwn, gan gludo dros 130,000 o bobl i mewn ac allan o ganol y ddinas yn effeithiol ac yn ddiogel.

"Mae ein buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd sbon yn rhoi mwy o opsiynau i ni ac rydym bellach yn gallu cynnig gwasanaethau ychwanegol a chryfach ar gyfer digwyddiadau mawr."

Dywedodd Georgina Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau yn Trafnidiaeth Cymru:

"Rydym yn hynod falch o'n timau a weithiodd yn ddiflino i ddarparu gwasanaeth di-dor yn ystod un o'n misoedd prysuraf.

"Wrth i ni edrych tua chyfnod yr ŵyl, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau taith ddiogel a phleserus i bob teithiwr."

Llwytho i Lawr