Skip to main content

New Ukrainian and Welsh blended Cafe for Caerphilly Station

18 Awst 2025

Mae dwy chwaer Wcrainaidd a ddaeth i Gymru i ddianc rhag y rhyfel wedi ffurfio partneriaeth â'r ddynes a'u noddodd yn y DU ac wedi agor caffi newydd sy'n cynnig cymysgedd o brofiad Wcrainaidd a Chymreig.

Agorodd Coffi Kava (y geiriau ar gyfer coffi yn y Gymraeg a'r Wcreineg wedi’u cyfuno) yng ngorsaf reilffordd Caerffili ddiwedd mis Gorffennaf, gan gynnig bwydlen sy'n cyfuno blasau traddodiadol Wcreineg â chynhwysion Cymreig.

Cyrhaeddodd Hanna a Liudmyla Gymru o Wcráin dair blynedd yn ôl ac maent bellach yn ei alw'n ail gartref iddynt. Noddwyd y chwiorydd gan Sian, gweithiwr GIG wedi ymddeol, pan gyrhaeddon nhw gyntaf a thrwy eu hangerdd cyffredin dros bobi a choffi da maent bellach wedi agor Coffi Kava.

Mae'r caffi yn ddathliad o ddiwylliant, cysylltiad a balchder lleol gyda Sian a'r chwiorydd wedi ymrwymo i ddod o hyd i gynnyrch a wnaed yng Nghymru lle bynnag y bo modd, gan gynnwys Coaltown Coffee, rhostfa Gymreig sydd â'r nod o adfywio swyddi mewn cyn drefi glofaol a diwydiannol.

Wrth wneud sylwadau ar yr agoriad, dywedodd tîm Coffi Kava: “Mae agor Coffi Kava wedi bod fel breuddwyd yn cael ei gwireddu i ni. Mae’r wythnosau cyntaf wedi bod yn hynod gadarnhaol - rydym wedi teimlo ein bod wedi cael croeso cynnes gan deithwyr, trigolion lleol a thîm TrC. Mae eu cynhesrwydd a’u brwdfrydedd wedi gwneud ymgartrefu’n llawenydd pur, ac mae wedi bod yn anhygoel gweld pobl yn croesawu’r hyn yr ydym yn ei gynnig. Rydym yn gyffrous i barhau i dyfu a gwasanaethu’r gymuned fywiog hon.”

Ychwanegodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru hefyd: “Rydym wrth ein bodd o gael croesawu Coffi Kava i orsaf Caerffili ac i’n rhwydwaith ehangach. Mae’r bartneriaeth hon yn enghraifft wych o’n hymrwymiad i gefnogi busnesau lleol a helpu cymunedau i ffynnu. Mae tîm Coffi Kava yn dod â rhywbeth gwirioneddol arbennig i’r orsaf, gan gyfuno dylanwadau Cymreig a Wcrainaidd mewn ffordd unigryw. Rydym yn hyderus y bydd hyn yn darparu profiad gwych i’n cwsmeriaid, boed yn teithio i’r gwaith bob dydd neu’n ymweld am resymau hamdden, trwy gynnig lle cynnes a chroesawgar iddynt ei fwynhau. Edrychwn ymlaen at weld Coffi Kava yn tyfu ac yn ffynnu fel rhan o’n rhwydwaith.”