Skip to main content

Coaltrain cafe enjoying fresh start at Barry station

25 Medi 2023

Weithiau, mae’r adegau mwyaf disglair y tu ôl i’r cymylau tywyllaf, ac roedd hynny’n sicr yn wir am berchennog caffi Gorsaf Drenau y Barri.

Sefydlodd Al Edge siop goffi ac oriel, Coaltrain’s, ar ôl i’w fusnes dillad hen a hyfryd yng Nghaerdydd ddod i ben yn ystod y cyfnod clo.

Clywodd Al am y cyfle i gymryd prydles ar gaffi gwag Trafnidiaeth Cymru yng Ngorsaf y Barri.

“Roeddwn i’n gweld hyn yn gyfle i ailgychwyn a gwneud rhywbeth newydd,” meddai Al, sy’n dod o ogledd-ddwyrain Lloegr yn wreiddiol.

“Roedden ni wedi symud i’r Barri ychydig cyn y cyfnod clo beth bynnag, ac roedd hyn yn amseru perffaith. Mae popeth yn well yn y Barri.”

Ers agor y llynedd, mae Al wedi datblygu’r caffi yn oriel gelf fywiog sy’n arddangos ei beintiadau a’i gerameg ei hun yn ogystal â gwaith artistiaid eraill. Yno, mae arddangosfeydd rheolaidd a digwyddiadau dros dro yn cael eu cynnal, sy’n rhoi naws unigryw i’r oriel. Mae enw’r caffi Coaltrain’s yn chwarae ar eiriau. Mae’r enw’n cydnabod y cyswllt rheilffordd, ac yn enw i’r cerddorion jazz chwedlonol, John ac Alice Coltrane.

Mae’n cynnal sesiynau cerddoriaeth fyw, ffair lyfrau comig ac mae’n trefnu gŵyl o greadigrwydd o’r enw ‘Catch the light’ a fydd yn cynnwys gweithdai barddoniaeth, sgyrsiau am hanes lleol, adrodd straeon, cerddoriaeth gwlad, jazz a blues byw, seminarau ADHD, a bydd Gyrfa Cymru a’r Prince’s Trust yno i helpu pobl i gael gwaith neu ddatblygu syniadau busnes eu hunain.

“Rydw i eisiau iddo fod yn lle braf a chreadigol. Mae gan bawb bethau’n digwydd yn eu bywydau felly mae’n braf dod i rywle gyda theimlad mwy hamddenol lle gallwch chi sgwrsio, ysgrifennu, tynnu llun neu fyfyrio mewn heddwch.

“Rwyf wedi dod i adnabod llawer o bobl leol sydd wedi byw bywydau hynod ddiddorol, ac yn adrodd straeon diddorol iawn.”

“Rydw i eisiau ei wneud yn lle cymunedol i’r bobl yn y dref ac i’r bobl o’r tu allan i’r dref a fyddai’n hoffi ymweld a mwynhau’r awyrgylch. Mae amrywiaeth o bobl yn dod yma, pobl sy’n cymudo, pobl sydd ar eu ffordd i’r maes awyr neu bobl sy’n gwneud tasgau dyddiol.

Mae Coaltrain’s yn gobeithio ehangu eu darpariaeth bwyd dros y misoedd nesaf. Ar ben hyn, mae Al yn bwriadu datblygu system archebu lle bydd cwsmeriaid yn gallu archebu ymlaen llaw, fel bod eu coffi’n barod i’w fwynhau pan fyddant yn cyrraedd yr orsaf. Maent hefyd wedi agor yr hen gownter gweini yn ddiweddar, fel y gallant wasanaethu’n uniongyrchol ar y platfform, ac fel y dywed Al:

“Pan ddaw hi’n fater o goffi, dydw i ddim yn gwneud coffi powdwr sydyn ond rydw i’n gyflym!”

Mae siop goffi ac oriel Coaltrain’s ar agor rhwng 6.30am ac 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8am ac 1pm ddydd Sadwrn.

I gael mwy o wybodaeth am yr ŵyl, ewch i COALTRAINS COFFEE SHOP GALLERY BARRY TRAIN STATION ar Facebook neu Instagram.