Skip to main content

School Holiday Rail Safety Warning

26 Gor 2024

Ag ysgolion ar fin cau ar gyfer gwyliau'r haf, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhybudd clir i bobl ifanc am beryglon tresmasu ar y rheilffordd.

Mae Dim Ail Gyfle – ymgyrch diogelwch rheilffyrdd a lansiwyd gan TrC y llynedd - wedi llwyddo i leihau tresmasu ar linellau craidd y cymoedd 45% (ffigurau diweddaraf yn Adroddiad Blynyddol TrC 23/24), ac mae TrC yn parhau i weithio'n galed i leihau nifer y tresmaswyr.

Mae'r ymgyrch wedi cyflwyno gweithdai am ddiogelwch ar y rheilffyrdd i fwy na 20,000 o bobl ifanc mewn 150 o ysgolion ledled Cymru, wedi cynnal arddangosfa fyw yng Nghaerdydd a'r cymoedd a groesawodd dros 750 o bobl ifanc.  Yn ogystal, mae wedi dosbarthu taflenni hyrwyddo i bob cartref sydd o fewn 200 metr o reilffordd, arddangos posteri a rhannu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae TrC hefyd wedi dosbarthu 500 o gamerâu a wisgir ar y corff i staff gweithredol ac mae’n gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain i helpu gydag  ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg TrC:

“Mae tresmasu ar y rheilffordd yn hynod o beryglus a gall ladd.   A gwyliau'r ysgol wedi dechrau, rydyn ni'n annog pobl ifanc, eu ffrindiau a theuluoedd i ledaenu'r neges hon i beidio â chymryd risg ger rheilffyrdd, croesfannau a gorsafoedd neu'n agos atynt.

“Dros y 12 mis diwethaf mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed yn hyrwyddo ein hymgyrch Dim Ail Gyfle ac rydym wedi ymweld ag ysgolion ac wedi siarad yn uniongyrchol ag 20,000 o bobl ifanc, wedi cynnal arddangosfeydd a chynhyrchu fideos digidol sydd wedi'u gwylio dros 2 filiwn o weithiau.

“Cofiwch, mae tresmasu yn anghyfreithlon - mae'n eithriadol o beryglus.  Peidiwch â mentro, cadwch yn ddiogel.” 

Llwytho i Lawr