06 Medi 2024
Mae bysiau yn lle trenau ychwanegol yn cael eu rhedeg i sicrhau bod un o brif wyliau bwyd Cymru yn llwyddiant ysgubol eleni, er gwaethaf y bwriad i gau'r rheilffordd.
Ar 21 a 22 Medi mae'r Fenni yn cynnal ei gŵyl fwyd flynyddol gyda disgwyl i tua 25,000 o bobl fynychu.
Fodd bynnag, mae'r brif reilffordd drwy'r dref sy'n cysylltu'r Amwythig a Chasnewydd ar gau ar gyfer y penwythnos er mwyn i Network Rail gyflawni gwaith diogelwch hanfodol ar y traciau ac i osod rhan o'r bont droed hygyrch newydd yng ngorsaf y Fenni.
Mae uwch swyddogion rheilffyrdd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cwrdd â threfnwyr yr ŵyl i gytuno ar gynllun ar gyfer bysiau ychwanegol i helpu sicrhau bod yr ŵyl yn llwyddiant.
Bydd bws gwennol hefyd yn rhedeg rhwng gorsaf Y Fenni a gorsaf fysiau'r dref, yn agos i'r ŵyl ei hun, ar y ddau ddiwrnod.
Dywedodd Nick Millington, cyfarwyddwr llwybrau Cymru a’r Gororau yn Network Rail:
"Rydym yn cydnabod y bydd cau'r rheilffordd yn anghyfleus i'r rhai sydd eisiau ac sydd angen ei defnyddio. Rydym ond yn cau'r rheilffordd, yn anfoddog, pan fo’r gwaith yn angenrheidiol, pan fydd rhaid i ni gynnal neu uwchraddio'r system reilffordd.
"Rydym wedi bwriadu cau'r rheilffordd rhwng Casnewydd a'r Amwythig yn ystod tri phenwythnos ym mis Medi i ymgymryd â rhaglen fuddsoddi fawr, a fydd yn gwneud ein rheilffordd yn fwy hygyrch a dibynadwy. Mae hyn yn cynnwys adeiladu pont droed hygyrch yn y Fenni, a fydd yn darparu mynediad heb risiau i bob defnyddiwr rheilffordd am genedlaethau i ddod. "Rydym ni a'n partneriaid yn Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda threfnwyr Gŵyl Fwyd y Fenni i leihau effaith cau'r lein. Bydd gwasanaeth bws yn lle trên llawn yn rhedeg, sy'n golygu y bydd teithwyr yn dal i allu cyrraedd a gadael y Fenni."
Dywedodd Jan Chaudhry van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru:
"Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r ŵyl fwyd i'r Fenni a'r economi leol. Er nad oedd yn bosibl newid dyddiadau'r gwaith ar y rheilffordd, rydym wedi gweithio gyda Network Rail a threfnwyr yr ŵyl i weithredu cynllun bysiau cynhwysfawr i gael pobl yn ôl ac ymlaen i'r ŵyl gyda chyn lleied o darfu â phosibl. Bydd gennym hefyd bresenoldeb cymorth cwsmeriaid ychwanegol mewn gorsafoedd allweddol ar hyd y llwybr i helpu cwsmeriaid i dderbyn y wybodaeth gywir.
"Bydd y gwaith trac a'r bont droed newydd ill dau yn cyfrannu'n helaeth at wella profiad y cwsmer yn yr ardal ac rydym yn diolch i bawb am fod yn amyneddgar tra bod hyn yn parhau."
Dywedodd Lucie Parkin, Cyfarwyddwr yr Ŵyl:
"Rydym bob amser yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo hynny'n bosibl. Mae'n dda gwybod bod darpariaeth gwasanaethau amgen, wedi'u cynllunio'n dda, ar waith, gan gynnwys gwasanaethau gwennol ychwanegol.
"Gall ymwelwyr sy'n dewis dod mewn car - fel bob amser - ddefnyddio maes parcio mawr yr ŵyl ar y ddau ddiwrnod. Rydym yn gyffrous i groesawu ffrindiau i’r Ŵyl Fwyd o bell ac agos i'r Fenni ar 21 a 22 Medi."
Bydd y bysiau olaf yn rhedeg o flaen gorsaf Y Fenni i'r Henffordd am 23:10 ac i Gasnewydd am 00:54 ar y nos Sadwrn i fore Sul. Ac ar y nos Sul sy’n troi’n fore Llun, mae'r bws olaf i Henffordd am 00:34 a'r bws olaf i Gasnewydd am 00:50.
Bydd bysiau wrth gefn ar gael mewn lleoliadau allweddol hefyd drwy gydol y dydd.
Mae'r cynlluniau bws yn lle trên yn cynnwys bysiau sy'n galw ym mhob gorsaf a hefyd gwasanaethau uniongyrchol yn unig yn galw yng Nghasnewydd, Henffordd a'r Amwythig, a fydd yn helpu i greu mwy o gapasiti i'r rhai sy'n teithio i orsafoedd lleol.