04 Tach 2022
Yr wythnos hon, datgelodd Trafnidiaeth Cymru ei fysiau trydan newydd sbon cyntaf yn yr Euro Bus Expo yn yr NEC, Birmingham.
Yn y flwyddyn newydd, bydd fflyd o fysiau trydan modern yn cael eu cyflwyno ar lwybr T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth a bydd man gwefru newydd yn agor yn Sir Gaerfyrddin gyda chyfleusterau newydd ar gyfer y gyrwyr a’r bysiau.
Wedi’u cyflenwi gan Pelican, mae’r bysiau newydd wedi cael eu profi’n helaeth ar gyfer tirwedd Cymru a byddant yn gwella profiad y cwsmer gan gynnig seddi cyfforddus, aerdymheru, goleuadau darllen, byrddau a socedi i wefru ffonau symudol.
Mae cyflwyno’r bysiau gwyrddach hyn yn gam arall ymlaen i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan annog pobl i deithio’n fwy cynaliadwy a helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nodau di-allyriadau a brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth: “Mae hwn yn newyddion gwych. Bydd cyflwyno’r fflyd newydd o fysiau trydan yn hwb mawr i wasanaeth bysiau TrawsCymru. Mae hefyd yn gam pwysig tuag at gyflawni ein huchelgais 20 mlynedd ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, aml-foddol o ansawdd uchel yma yng Nghymru.”
Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Dyma garreg filltir allweddol arall wrth i ni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Dyma’r cam cyntaf i ddatgarboneiddio fflyd TrawsCymru gyfan erbyn 2027 a holl fysiau Cymru erbyn 2035.
“Mae’n wych gweld y bws trydan newydd yn cael ei arddangos yn y digwyddiad hwn. Yn y misoedd nesaf, bydd y bysiau modern hyn mewn gwasanaeth, gan wella profiad y cwsmer ac annog mwy o bobl i adael y car gartref a dewis defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff ac Isadeiledd, y Cyng. Edward Thomas: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i ddarparu’r seilwaith a’r bysiau trydan. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i helpu i ddarparu trafnidiaeth wedi'i ddatgarboneiddio o ansawdd uchel ar wasanaeth Traws Cymru – Caerfyrddin i Aberystwyth Llywodraeth Cymru.”