Skip to main content

Buses to replace trains for one week as Network Rail carries out essential upgrades on Vale of Glamorgan line

23 Hyd 2026

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw wrth i Network Rail gynnal gwaith adnewyddu a chynnal a chadw hanfodol rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr drwy'r Barri ym mis Hydref.

Bydd peirianwyr Network Rail yn cynnal cyfres o uwchraddiadau hanfodol ar linell Bro Morgannwg rhwng dydd Sul 25 Hydref a dydd Sul 1 Tachwedd.

Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar a disodli trac yn Llanilltud Fawr, adnewyddu switshis a chroesfannau yn Cogan - y rhannau o'r rheilffordd sy'n caniatáu i drenau symud o un trac i'r llall - a gwaith trac rhwng Grangetown ac Eastbrook.

Bydd timau hefyd yn cynnal ystod o weithgareddau cynnal a chadw eraill tra bod y rheilffordd ar gau, gan fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i gwblhau sawl darn o waith ar yr un pryd, er mwyn lleihau tarfu ar deithwyr.

Bydd y buddsoddiad yn helpu i wella diogelwch, dibynadwyedd a pherfformiad hirdymor y rheilffordd ar gyfer teithwyr a nwyddau.

Newidiadau i wasanaethau trên

Er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn ddiogel ac yn effeithlon, bydd y rheilffordd rhwng Caerdydd Canolog a Phenarth, Y Barri, Ynys y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr drwy linell Bro Morgannwg ar gau o 10yh ddydd Sul 25 Hydref tan ddiwedd y gwasanaeth ddydd Sul 1 Tachwedd.

Yn ystod y gwaith:

  • Bydd bysiau yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Phenarth.
  • Bydd bysiau yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog ac Ynys y Barri a'r Barri.
  • Bydd bysiau yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr drwy linell Bro Morgannwg.

Cynghorir teithwyr i wirio eu taith cyn teithio a chaniatau amser ychwanegol, gan fydd bysiau yn cymryd mwy o amser nag arfer.

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: "Rydyn ni'n gwybod nad oes byth amser da i gau'r rheilffordd, ac mae'n ddrwg gennym am yr aflonyddwch y bydd y gwaith hwn yn ei achosi.

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod teithwyr yn gallu dal i deithio yn ystod y cyfnod cau, gyda bysiau newydd yn rhedeg ar hyd y llwybrau yr effeithir arnynt.

"Mae cau'r llinell am wythnos yn rhoi'r amser sydd ei angen ar ein timau i wneud sawl darn pwysig o waith mewn lleoliadau ar draws llinell Bro Morgannwg, yn hytrach na'u gwneud ar wahân dros nifer o benwythnosau.

"Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i gynnal rheilffordd ddiogel a dibynadwy am flynyddoedd i ddod, a hoffem ddiolch i deithwyr am eu hamynedd tra bydd yn digwydd."

Dywedodd Sarah Higgins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn Network Rail i gefnogi teithwyr tra bydd y gwaith uwchraddio hanfodol hwn yn cael ei wneud ar linell Bro Morgannwg fis Hydref eleni.

"Rydym yn cydnabod bod gwaith o'r fath yn achosi tarfu, ac er ei fod yn digwydd yn ystod hanner tymor yr ysgolion, mae wedi'i drefnu ar gyfer cyfnod pan ddisgwylir llai o bobl na'r arfer yn teithio.

"Bydd gwasanaeth bysiau yn lle trenau ar waith i sicrhau bod pawb yn gallu parhau i deithio. Rydym yn deall bod defnyddio bysiau yn golygu teithiau hirach, a hoffem ddiolch i'n teithwyr am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud.

"Rydym yn cynghori ein teithwyr yn gryf i wirio eu teithiau cyn cychwyn, drwy ddefnyddio gwefan neu ap Trafnidiaeth Cymru i gynllunio ymlaen llaw a gadael amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau."

Dylai teithwyr wirio eu teithiau cyn teithio gan ddefnyddio cynlluniwr taith Trafnidiaeth Cymru.

Llwytho i Lawr